Galw am safle yng Nghymru i gadw llaeth o'r fron

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae galwadau am sefydlu is-ganolfan ar gyfer cadw llaeth o'r fron yng Nghymru fel bod llefrith ar gyfer babanod sydd wedi eu geni yn gynnar neu sy'n sâl yn cyrraedd ysbytai ynghynt.

Ar hyn o bryd, Cymru ydy'r unig wlad ym Mhrydain sydd heb fanc llaeth o'r fron - gyda'r safleoedd agosaf yng Nghaer a Birmingham.

Mae rheolwr y safle yng Nghaer yn dweud fod angen sefydlu is-ganolfan yng Nghymru, rhywle yn de.

Dywedodd Jackie Hughes eu bod yn aml yn dosbarthu llaeth i Gymru, ac er bod "cyrraedd y gogledd yn ddigon didrafferth, roedd y de yn fwy heriol".

Mae'r llaeth sy'n cael ei roi i'r banc llaeth gan fenywod yng Nghymru yn cael ei gasglu a'i drosglwyddo i fanciau yn Lloegr er mwyn cael ei sgrinio a'i brosesu.

Cludo yn broblem

Wrth alw am is-ganolfan rhywle yn y de, ychwanegodd y gallai gadw'r adnoddau prosesu a sgrinio yng Nghaer gadw'r gost yn is.

Dywedodd: "Mae gogledd a de Cymru wedi eu rhannu gan ardal o boblogaeth isel, a llawer o lonydd gwledig sy'n achosi problem.

"Er mwyn cael llaeth i Gaerdydd, rydym yn dibynnu ar feicwyr sydd fel arfer yn cludo gwaed, ac maen nhw'n ddibynnol iawn ar y tywydd.

"Mae yna broblem pe bai ysbyty yn y de yn ffonio ddydd Gwener a bod nhw angen y llaeth y diwrnod hwnnw.

"Pe na bai ni'n gallu gwneud o ar y diwrnod hwnnw, yna byddai'n rhaid iddynt fod hebddo am weddill y penwythnos."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gwasanaeth yn dibynnu ar feicwyr gwaed ar hyn o bryd, sy'n gallu cael eu heffeithio gan y tywdd

Dywedodd mai'r lle delfrydol ar gyfer is-ganolfan fyddai ysbyty yn y de gyda ward sy'n gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Byddai angen rhewgell benodol i gadw llaeth sydd wedi ei brosesu, a byddai angen cynnal profion ddwywaith y dydd i sicrhau ei fod yn parhau wedi rhewi ac yn cael ei gadw ar y tymheredd cywir.

Mae gan y ganolfan yng Nghaer eisoes is-ganolfannau yn Hull, Preston, Sheffield a Manceinion.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cydnabod pwysigrwydd bwydo o'r fron i'r fam a'r plentyn.

Dywedodd llefarydd eu bod ar hyn o bryd yn ymchwilio i weld "sut y gallai banciau llaeth fod o gymorth wrth gynyddu canrannau bwydo o'r fron yng Nghymru".

Ychwanegodd fod tasglu wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i weld sut i gynyddu lefelau yng Nghymru, ac mae disgwyl i'r argymhellion gael eu cyhoeddi yn Chwefror 2018.