Â鶹ԼÅÄ

Rhai mamau yn bwydo ar y fron am lai na mis medd arolwg

  • Cyhoeddwyd
Babi yn bwydo o'r fronFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn dangos bod un o bob pump o ferched yn bwydo o'r fron am lai na mis.

Canfyddiad arall yr arolwg yw bod hanner y darpar rieni a holwyd naill ai'n ansicr neu wedi penderfynu peidio bwydo ar y fron.

Argymhelliad GIG ydy bod mamau yn bwydo ei baban o'r fron am chwe mis ond maent yn ychwanegu bod hyn yn gallu bod yn anodd i rai.

Yn ôl ymgyrchwyr mae rhai merched yn teimlo "cywilydd" os ydyn nhw'n cael trafferth ac felly yn parhau i geisio bwydo o'r fron hyd yn oed pan mae'r babanod yn llwglyd.

Mae ymgyrch The Fed Is Best yn dweud bod babanod sydd ddim yn cael digon o laeth mewn perygl o gael salwch fel clefyd melyn (jaundice) a dadhydradu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai mamau newydd yn teimlo pwysau i fwydo ar y fron hyd yn noed os ydyn nhw yn cael trafferthion

"Dylai bob un fam sydd eisiau bwydo o'r fron gael ei chefnogi i wneud hyn tra'n sicrhau bod y plentyn yn derbyn yr holl faeth sydd angen i fod yn iach.

"Rydyn ni yn clywed bod mamau yn teimlo pwysau anferthol gan gymdeithas a phrotocolau bwydo o'r fron i fwydo eu babanod ar y fron yn unig, hyd yn oed os nad ydyn nhw yn cynhyrchu digon o lefrith i wneud hyn."

Mae rhai menywod yn wynebu poen a'u tethi yn gwaedu neu yn cracio.

Fel rhan o ymgyrch Iechyd Cyhoeddus Cymru mae mamau wedi bod yn cynnig cyngor ynglŷn â bwydo ar y fron i rieni a rhai oedd yn ystyried eu hopsiynau.

Does dim cymaint o risg y bydd babanod sydd yn cael eu bwydo o'r fron yn datblygu clefyd ar y galon neu bwysau gwaed uchel wrth fynd yn hÅ·n meddai'r corff.

Mae yna fudd iechyd posib i'r mamau hefyd.

Adroddiad llywodraeth

Mae adroddiad gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi cofnodi 30,000 o enedigaethau yn 2015-16, wedi dangos fod 59% o'r mamau newydd hynny yn bwriadu bwydo ar y fron.

Roedd y niferoedd yn amrywio rhywfaint o un bwrdd iechyd i'r llall.

50% oedd y ffigwr ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf ond roedd 84% o famau yn bwriadu bwydo ar y fron ym Mhowys.

Doedd dim ffigyrau ar gael ar gyfer Caerdydd a'r Fro.

Dywedodd Karen Thompson o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mewn nifer o lefydd yng Nghymru mae bwydo ar y fron yn beth prin iawn a bwydo gan ddefnyddio potel yw'r norm.

"Oni bai ein bod ni yn gallu newid hyn, fydd nifer o fabanod yng Nghymru ddim yn cael nifer o'r manteision iechyd sydd yn dod trwy gael eich bwydo ar y fron yn y tymor byr a'r tymor hir."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod angen deall mwy ynglŷn â pham bod rhieni yn penderfynu bwydo'u babi gan ddefnyddio llaeth potel

"Dim ond llaeth o'r fron sydd angen ar fabi am y chwe mis cyntaf. Mae hyn yn rhoi'r holl faeth sydd ei angen arnynt i dyfu yn iach.

"Mae angen i ni ddeall mwy ynglŷn â pham bod rhai rhieni yn ansicr ynglŷn â bwydo ar y fron a helpu i daclo eu pryderon mewn ffordd bositif."

Cyngor arall i famau yw peidio pryderu ynglŷn â'r amseroedd bwydo, yfed digon, gofyn am gymorth a pheidio teimlo'n euog am rhoi'r gorau i fwydo ar y fron.