Â鶹ԼÅÄ

Adroddiad yn argymell cynyddu nifer yr ACau i hyd at 90

  • Cyhoeddwyd
Cynulliad

Mae adroddiad newydd wedi argymell cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i rhwng 80 a 90, a gostwng yr oed pleidleisio i 16.

Daw'r argymhellion gan bwyllgor o arbenigwyr sydd wedi treulio bron i flwyddyn yn ystyried a oes angen diwygio'r Cynulliad.

Mae'r panel wedi awgrymu cynyddu'r 60 aelod presennol, a'u hethol drwy system bleidleisio fwy cyfrannol - y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

Ond mae'n bosib na fydd y newidiadau, os byddan nhw'n cael eu cymeradwyo o gwbl, yn digwydd cyn yr etholiadau Cynulliad nesaf yn 2021.

Galwad 'amhoblogaidd'

Yn ôl yr adroddiad byddai'n costio tua £6.6m y flwyddyn i gael 20 o ACau ychwanegol, neu £9.6m i gael 30 ychwanegol - yn ogystal â chost o rhwng £2.4m a £3.3m i baratoi'r Siambr a swyddfeydd ar eu cyfer.

Dywedodd yr adroddiad y byddai angen yr ACau ychwanegol er mwyn delio â llwyth gwaith cynyddol y Cynulliad - fydd yn "debygol o drymhau" yn sgil Brexit.

Mae hefyd yn argymell sefydlu rhyw fath o gwota rhyw fel rhan o'r trefniadau etholiadol, a'i gwneud hi'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi data ar amrywiaeth o ran eu hymgeiswyr.

Mae'r panel hefyd wedi galw am ganiatáu i ACau rannu swyddi, gyda'r bwriad o "gael gwared ar rwystrau sy'n gallu atal pobl sydd ag anableddau neu gyfrifoldebau gofalu rhag sefyll mewn etholiadau".

Disgrifiad,

Mwy o ACau: 'Y blaid Lafur yw'r allwedd'

Dylai gostwng yr oedran pleidleisio, meddai'r adroddiad, fynd "law yn llaw ag addysg briodol, effeithiol ac amhleidiol ym maes gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth" i bobl ifanc.

I weithredu unrhyw newidiadau, byddai'n rhaid creu deddf newydd a sicrhau cefnogaeth dau o bob tri AC.

Dywedodd yr Athro Laura McAllister, cadeirydd y panel, mai'r bwriad oedd sicrhau fod y Cynulliad yn "cynrychioli'n effeithiol y bobl a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu", a "dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif".

Ffynhonnell y llun, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn awgrymu y gallai etholaethau presennol gael eu cyfuno os yw'r system bleidleisio yn newid

"Heddiw, dim ond 60 o Aelodau sydd gan y sefydliad o hyd, a gyda'i bwerau cynyddol i effeithio ar fywydau pobl Cymru, nid oes ganddo'r capasiti sydd ei angen arno."

Dywedodd ei fod yn cydnabod y byddai "galw am fwy o wleidyddion yn amhoblogaidd".

"Ond, os na chaiff ei wneud nawr, bydd y Cynulliad yn parhau i fod yn rhy fach, ac yn risg i'w allu i ddarparu ar gyfer y bobl y mae'n eu gwasanaethu," ychwanegodd.

'Anghyfrifol peidio ystyried'

Gyda mwy o rym yn cael ei ddatganoli, gan gynnwys pwerau dros dreth incwm a'r cyfrifoldeb dros etholiadau ei hunain, mae cwestiynau ynghylch nifer yr aelodau ym Mae Caerdydd.

Mae'r Llywydd Elin Jones wedi dweud y byddai'n "anghyfrifol" i beidio ag ystyried ehangu'r Cynulliad i ddelio â chynnydd yn ei lwyth gwaith.

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd nad oedd modd "anwybyddu'r mater hwn mwyach".

"Bydd Comisiwn y Cynulliad yn trafod y cynigion yn fanwl yn ystod y misoedd nesaf ac yn ymgysylltu â phobl ledled y wlad ac ar draws y sbectrwm gwleidyddol," meddai.

"Rwy'n gobeithio y gallwn gyrraedd consensws eang dros newid a darparu deddfwrfa gryfach, fwy cynhwysol a mwy blaengar sy'n gweithio i Gymru am flynyddoedd lawer i ddod."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Llywydd Elin Jones bod y Cynulliad yn wahanol iawn i'r sefydliad fel ag yr oedd yn 1999

Mae'r adroddiad yn galw am gyflwyno'r newidiadau mewn pryd ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2021, gyda'r Athro McAllister yn dweud y byddai'n bosib pasio'r ddeddfwriaeth erbyn haf 2019.

Gyda'r angen am fwyafrif arbennig yn y Senedd, fodd bynnag, byddai angen cefnogaeth ACau Llafur i'w basio.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid y byddan nhw'n ymgynghori ar y mater yn 2018, cyn penderfynu yn eu cynhadledd yn 2019.

Ond yn ôl AC Plaid Cymru, Simon Thomas, mae safbwynt presennol y blaid Lafur yn "lladd unrhyw obaith o basio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol cyn yr etholiadau Cynulliad nesaf".

Ychwanegodd: "Dyw hi ddim yn gwneud unrhyw synnwyr fod ein Cynulliad ni cymaint yn llai na seneddau o faint a phwerau cymharol mewn rhannau eraill o'r DU, Ewrop a thu hwnt."

'Dim angen mwy'

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig y byddan nhw'n "ystyried yr adroddiad a'i argymhellion yn ofalus" er mwyn sicrhau fod unrhyw newidiadau yn cynnig "budd i bobl Cymru a gwerth am arian i'r trethdalwr".

Mae'r cyn-AC Ceidwadol, Glyn Davies AS, wedi dweud nad yw'n gwrthwynebu cynyddu nifer yr ACau os oes dadl gryfach yn cael ei chyflwyno o blaid hynny.

Ond dywedodd AS Ceidwadol Mynwy, David Davies nad yw'n gweld sut mae "cyfiawnhau" cynyddu nifer yr ACau pan mae cynlluniau ar y gweill i gwtogi nifer yr Aelodau Seneddol yn San Steffan.

Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton wedi dweud mai'r "peth olaf mae Cymru ei angen yw mwy fyth o wleidyddion", gan ddweud y byddai'n chwyddo cyllideb y Cynulliad o £55m y flwyddyn "i dros £80m".

Ffynhonnell y llun, Steve Pope
Disgrifiad o’r llun,

Laura McAllister oedd cadeirydd y panel wnaeth gynhyrchu'r adroddiad

Ychwanegodd yr AC Llafur, Mike Hedges nad yw wedi'i argyhoeddi bod angen mwy o ACau, ac y gallai "pwyllgorau llai o fewn y Cynulliad gyflawni'r un gwelliant o ran craffu".

  • '

Ond gofynnodd ei gyd-AC Llafur, Mick Antoniw a oedd ACau oedd yn "gweithio 50, 60, 70 awr" yr wythnos wir yn "gwneud y gwaith yn iawn".

Mae galw ers rhai blynyddoedd am godi nifer yr ACau o 60 i 80.

Dim ond ers i Ddeddf Cymru 2017 ddod i rym y mae wedi bod yn bosib i'r Cynulliad ystyried newid trefniadau etholiadol a nifer y cynrychiolwyr ym Mae Caerdydd.