Â鶹ԼÅÄ

'Angen cynyddu nifer ACau o 60 i 80'

  • Cyhoeddwyd
Siambr y Senedd

Mae cyn-Lywydd y Cynulliad wedi dweud y dylid ethol 20 o ACau ychwanegol yn ystod etholiad y Cynulliad yn 2016.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas bod consensws yn cefnogi cynyddu nifer yr ACau o 60 i 80.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Wales y Â鶹ԼÅÄ y dylid cyflwyno deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd yn fuan ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

"Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni gael 80 o aelodau, gan wneud hynny cyn etholiad nesaf y Cynulliad.

"Does dim rheswm pam na ddylwn ni wneud hynny gan ddeddfu i'r perwyl hwnnw yn fuan yn oes y senedd newydd yn San Steffan".