Bwlio: Dim ymchwiliad pwyllgor Cynulliad i Carwyn Jones

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae ACau wedi pleidleisio yn erbyn cynnig fyddai wedi golygu gofyn i bwyllgor Cynulliad ymchwilio i honiadau o fwlio.

Roedd y Ceidwadwyr wedi galw ar Bwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i edrych ar beth oedd Carwyn Jones yn ei wybod am honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.

Cafodd eu cynnig ei gefnogi gan Blaid Cymru ac UKIP, ond fe bleidleisiodd Llafur dros welliant yn dweud y dylai Mr Jones wynebu ymchwiliad annibynnol.

Fe wnaeth y Prif Weinidog gymryd rhan yn y bleidlais, er gwaethaf cyhuddiad y byddai gwneud hynny yn esiampl o wrthdaro buddiannau "amlwg a niweidiol".

Yn y cyfamser, daeth i'r amlwg na fydd Mr Jones yn mynd i angladd Carl Sargeant ddydd Gwener.

'Ble well i graffu?'

Daeth y ddadl yn sgil honiadau gan y cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd Steve Jones fod awyrgylch wenwynig o fewn Llywodraeth Cymru yn y gorffennol.

Roedd y gwrthbleidiau eisiau gweld y pwyllgor craffu yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i'r hyn yr oedd Mr Jones yn ei wybod, a beth wnaeth ynghylch yr honiadau.

Ond ers i'r cynnig gael ei gyflwyno'r wythnos diwethaf, mae Mr Jones wedi cyfeirio ei hun at ymchwiliad annibynnol ar wahân.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Paul Davies y byddai "ACau profiadol" y pwyllgor wedi sicrhau na fyddai'r ymchwiliad yn mynd yn rhy "wleidyddol"

Bydd yr ymchwiliad hwnnw yn cael ei gynnal gan James Hamilton, sy'n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth Yr Alban ac wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru.

Wrth gyflwyno'r ddadl yn y Cynulliad dywedodd y Ceidwadwr Paul Davies AC fod angen "ymchwilio i'r honiadau mewn modd agored a thryloyw".

Ychwanegodd ei fod yn "croesawu" ymchwiliad annibynnol, ond ei fod dal yn briodol i'r pwyllgor craffu gynnal eu hymchwiliad hwythau i'r Prif Weinidog.

"Mae'n ymddangos fel bod y llywodraeth ddim ond yn derbyn craffu ar y mater yma os yw e ar eu telerau nhw," meddai.

Ychwanegodd: "Dyw Llywodraeth Cymru ond yn ateb cwestiynau pan maen nhw'n teimlo fel gwneud."

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Plaid Cymru ac UKIP gefnogi cynnig y Ceidwadwyr

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod "cwestiynau heb eu hateb" ynghylch ymateb y Prif Weinidog i'r honiadau, a bod y llywodraeth yn ceisio atal "un llwybr" yn y broses graffu.

"Allwn ni ddim bod o blaid defnyddio un ffordd o graffu i ddileu ffordd arall o graffu... mae modd cael y ddau," meddai.

"Dyw hi ddim yn iawn [fod y Prif Weinidog] yn gyfrifol am blismona ei ymddygiad ei hun."

Ychwanegodd Adam Price AC fod gofyn i'r pwyllgor craffu edrych ar y mater yn rhan o "graffu seneddol cyffredin".

Holodd arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton a fyddai'r ymchwiliad annibynnol yn "gofyn y cwestiynau cywir".

"Ble well i graffu ar weithredoedd, neu ddiffyg gweithredoedd, y Prif Weinidog nag yn y Cynulliad Cenedlaethol?"

'Un llais'

Wnaeth Carwyn Jones ei hun ddim cyfrannu yn ystod y ddadl, ar ôl dweud gynt nad oedd yn "ofn i ymgynghorydd annibynnol ystyried a wyf wedi torri'r cod gweinidogol, oherwydd rwy'n hyderus nad wyf wedi gwneud".

Ond yn y siambr fe wnaeth sawl AC Llafur amddiffyn y Prif Weinidog, gyda Lynne Neagle yn dweud y gallai gweision sifil fod yn "llai awyddus" i gyfrannu i'r pwyllgor craffu nag y bydden nhw i ymchwiliad annibynnol.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Lynne Neagle ei bod yn pryderu a fyddai'r cyhoedd yn gweld ymchwiliad gan bwyllgor o ACau fel un "annibynnol"

Dywedodd Mick Antoniw fod yr ymchwilydd annibynnol yn "hynod gymwys" i gynnal yr ymchwiliad, ac nad oedd y pwyllgor yn "addas" i gynnal ymchwiliad o'r fath.

Ychwanegodd Lee Waters: "Rydyn ni [ACau Llafur] yn siarad ag un llais wrth gytuno i sefydlu'r broses annibynnol a dilyn honno i'w therfyn, ac ar y diwedd cael trafodaeth lawn ac agored."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mick Antoniw fod yn rhaid i'r person fyddai'n gyfrifol "fod yn gymwys i gynnal ymchwiliad o'r fath"

Yn dilyn absenoldeb yr AC annibynnol, Nathan Gill fe bleidleisiodd ACau o 29 i 27 yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr i gael y pwyllgor craffu i ymchwilio.

Yn lle hynny fe bleidleisiodd ACau o blaid y gwelliant Llafur i nodi "ymrwymiad Llywodraeth Cymru i benodi panel o gynghorwyr annibynnol" fyddai'n ymchwilio i'r Prif Weinidog.

Bydd adroddiad yr ymchwilydd annibynnol, James Hamilton, yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Honiadau o gamarwain

Fe wnaeth Leighton Andrews ei honiadau yn erbyn Llywodraeth Cymru yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, cyn-AC Alun a Glannau Dyfrdwy, gafodd ei ganfod yn farw ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet.

Dywedodd cyn-AC Rhondda bod bwlio a gemau meddyliol yn ystod ei gyfnod yn y llywodraeth.

Yn y cyfamser, daeth i'r amlwg na fydd Carwyn Jones yn mynd i angladd Mr Sargeant ddydd Gwener. Dywedodd Mr Jones ei fod yn "parchu dymuniadau'r teulu".

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru yn deall y bydd arweinydd Prydeinig y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn mynychu'r gwasanaeth.

Mae Mr Jones hefyd wedi wynebu honiadau iddo gamarwain y Senedd yn 2014 pan ddywedodd mewn ateb i gwestiwn gan yr AC Ceidwadol Darren Millar nad oedd unrhyw honiadau o fwlio gan swyddogion neu ymgynghorwyr wedi ei wneud iddo.

Dywedodd Mr Jones yr wythnos ddiwethaf nad oedd erioed wedi delio gydag unrhyw "honiadau penodol o fwlio" o fewn Llywodraeth Cymru.