Â鶹ԼÅÄ

Canfod walabi marw ar draeth Llanddwyn ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
walabiFfynhonnell y llun, Gwynfor Jones

Mae cerddwyr ar draeth Llanddwyn ar Ynys Môn wedi cael tipyn o syndod ar ôl canfod walabi wedi marw yn ymyl y lan.

Roedd Gwynfor Jones yn un o griw o bedwar oedd yn cerdded ar hyd y traeth fore Iau pan ddaethon nhw o hyd i gorff yr anifail.

Mae'r walabi yn anifail sydd yn frodorol i Awstralia, ac yn perthyn i'r cangarŵ.

Mae'n bosib ei fod wedi golchi i'r lan ym Môn ar ôl ei gario gan y cerrynt o Ynys Manaw, ble mae nifer ohonynt yn byw yn y gwyllt.

'Rhyfedd'

"Roedden ni'n cerdded ar hyd y traeth i Ynys Llanddwyn pan wnaethon ni ddod ar ei draws o, a doeddan ni ddim yn dallt beth oedd o," meddai Mr Jones wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw.

"Nes i roi llun ar Facebook, ac oedd pobl yn holi beth oedd o. Wnaeth un person ddeud fod 'na swp o wallabies ar Ynys Manaw yn byw yn wyllt, felly ella fod o wedi boddi a chael ei olchi yn ystod storm, a dod i'r lan yn Llanddwyn.

"Dwi ddim yn meddwl fod o wedi dod o Awstralia beth bynnag!"

Ffynhonnell y llun, Glen Fergus
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r walabi, sy'n llai na maint cangarŵ, yn dod yn wreiddiol o Awstralia a Tasmania

Ychwanegodd: "Dwi erioed wedi gweld unrhyw beth fel 'na ar unrhyw draeth o'r blaen. 'Swn i'm yn deud fod o'n sioc, ond oedd o'n bendant yn rhyfedd.

"Mae 'na tua 120 o sylwadau [ar y neges Facebook], mae o di codi 'chydig o ddifyr.

"Mi wnaeth un awgrymu fod o wedi cael ei adael ar ôl ar ôl y gêm rygbi [rhwng Cymru ac Awstralia]!"

Cysylltiad Ynys Manaw

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn ymchwilio i'r mater, ond nad oedden nhw wedi derbyn adroddiad o'r darganfyddiad hyd yn hyn.

Y gred yw bod dros 100 o walabïaid yn byw ar Ynys Manaw bellach, a hynny wedi i bâr ohonynt ddianc o barc bywyd gwyllt yn yr 1960au.

Fe wnaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Ynys Manaw gadarnhau mai walabi oedd yr anifail gafodd ei ganfod.

Ychwanegodd llefarydd ei bod yn "bosib iawn" mai o'r ynys yr oedd yr anifail wedi dod, a'i fod wedi cael ei olchi lawr i'r môr a'i gario gan y cerrynt i arfordir Cymru.