Â鶹ԼÅÄ

Ymwelwyr annisgwyl ar draeth Cei Newydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Octopws ar draeth Cei Newydd

Mae tua 20 octopws wedi cael eu golchi i'r traeth yng Nghei Newydd.

Gwelwyd yr anifeiliaid ar y tywod nos Wener gan Brett Stones, sydd yn trefnu teithiau cychod o'r porthladd.

"Roedd rhwng 20 a 25 ohonyn nhw. Dwi erioed wedi gweld nhw allan o'r dŵr fel yna."

Yn ôl arbenigwyr mae'r boblogaeth octopws ym Mae Ceredigion wedi cynyddu yn ddiweddar ond mae'n anarferol iawn gweld nhw ar y traeth.

Cafodd yr anifeiliaid eu dychwelyd i'r dŵr, ond fe welwyd rhai ohonynt wedi golchi i'r lan yn farw fore Sadwrn.