Biniau Conwy: Pwyllgor cyngor yn gwrthod casgliadau misol

Mae aelodau o bwyllgor ar Gyngor Conwy wedi pleidleisio yn erbyn cyflwyno casgliadau biniau bob pedair wythnos ar draws y sir.

Roedd Pwyllgor Economi a Chraffu o blaid cadw casgliadau bob tair wythnos.

Am gyfnod prawf, roedd oddeutu 10,000 o gartrefi'r sir yn cael gwagio biniau bob pedair wythnos am flwyddyn.

Dywedodd adroddiad gan swyddogion yr awdurdod fod hyn wedi arwain at gynyddu ailgylchu a lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yn yr ardaloedd hynny.

Ond roedd sawl un o aelodau'r pwyllgor yn bryderus y byddai newid y drefn yn arwain at fwy o dipio sbwriel anghyfreithlon.

Dywedodd y cynghorydd Ronnie Hughes (Llafur): "Dydyn ni heb gael trefn ar bethau gyda chasgliadau bob tair wythnos eto heb sôn am bob pedair wythnos.

"Mae yna ddeg achos o dipio anghyfreithlon wedi digwydd yn fy ardal i yn Llandudno yn unig yn y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n poeni y bydd pethau'n gwaethygu os fyddwn ni ond yn casglu biniau du bob pedair wythnos."

Ond roedd y cynghorydd Brian Cossey (Democratiaid Rhyddfrydol) yn anghydweld, gan fynnu: "Yr unig ffordd o gynyddu ailgylchu yw i'w gwneud hi'n anoddach i bobl i daflu pethau i ffwrdd."

Er gwaetha'r bleidlais nos Lun, cabinet Cyngor Conwy fydd â'r gair olaf ar y mater yn eu cyfarfod yn gynnar ym mis Rhagfyr.