Â鶹ԼÅÄ

Cyngor Sir Conwy i gasglu biniau bob pedair wythnos

  • Cyhoeddwyd
biniau

Cyngor Sir Conwy fydd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddechrau casglu biniau unwaith bob pedair wythnos.

Fe fydd tua 10,300 o gartrefi - pawb sydd yn cael eu sbwriel wedi'i gasglu ddydd Llun - yn cael eu heffeithio gan y newid.

Dywedodd y cyngor mai bwriad y newid, fydd yn para am gyfnod o flwyddyn, yw annog pobl i ailgylchu mwy o'u gwastraff.

Mae'r drefn ar gyfer gweddill y sir yn newid hefyd, gyda biniau yn cael eu casglu bob tair wythnos bellach yn hytrach na bob pythefnos, ond fe fydd bagiau ailgylchu a gwastraff bwyd yn cael eu casglu'n wythnosol o hyd.

'Newid arferion'

"Mae hwn yn gyfle gwych i holl drigolion adolygu eu harferion ailgylchu a sicrhau bod popeth sydd yn gallu cael ei ailgylchu yn cael ei ailgylchu," meddai'r Cynghorydd Dave Cowans.

"Yng Nghonwy mae dros hanner y bin tŷ cyffredin yn cael ei lenwi'n anghywir â gwastraff ailgylchu a gwastraff bwyd sydd yn cael ei gasglu ar wahân bob wythnos."

Mae rhai wedi gwrthwynebu'r cynllun fodd bynnag, gan gynnwys yr Aelod Cynulliad Ceidwadol lleol Darren Millar.

"Mae'r cynlluniau yma'n hollol hurt - yr hyn welwn ni fydd cynnydd mewn taflu sbwriel," meddai AC Gorllewin Clwyd, gan ychwanegu ei bod hi'n annheg bod pobl yn talu mwy o dreth cyngor tra'n derbyn llai o wasanaethau.