Â鶹ԼÅÄ

£425,000 i 26 o brosiectau sy'n hybu'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan wedi dweud ei bod hi'n 'her sylweddol' i geisio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £425,000 wedi'i glustnodi ar gyfer 26 o brosiectau sy'n ceisio hybu'r Gymraeg.

Mae Grant Cymraeg 2050 yn elfen o strategaeth , sy'n ceisio sicrhau bydd miliwn o bobl yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2050.

Bydd grantiau bach o £20,000 yn parhau er mwyn ceisio hyrwyddo defnydd dyddiol o'r iaith ac er mwyn hyrwyddo technoleg sy'n cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg.

Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan wedi dweud ei bod hi'n awyddus i bobl fod yn "hyderus" o ran defnyddio'r iaith Gymraeg.

Cynyddu'r gronfa

Mae'r prosiectau'n cynnwys grant i ddatblygu gwefan sy'n galluogi gwirfoddolwyr Cymraeg i greu cynnwys sain Cymraeg ar gyfer y rheiny sydd wedi colli eu golwg.

Bydd hefyd grant o £20,000 i ddatblygu technoleg fydd yn helpu siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu gallu i siarad, fydd yn cael ei gynhyrchu gan Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.

Bydd nifer o fentrau iaith yn derbyn grantiau, a bydd £7,000 yn cael ei roi i gylchgrawn cerddoriaeth Y Selar i ddatblygu platfform digidol.

Bydd Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru hefyd yn derbyn grant o £20,000 er mwyn hybu hyfforddi pêl-droed ar lawr gwlad drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn wreiddiol £300,000 oedd ar gael, ond oherwydd safon y ceisiadau ddaeth i law, penderfynodd y llywodraeth gynyddu'r gronfa.

'Her sylweddol'

Ychwanegodd Ms Morgan: "Rydyn ni am weld y Gymraeg yn dod yn rhan arferol o fywyd bob dydd fel bod siaradwyr o bob lefel yn teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio'r iaith mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.

"Bydd y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, boed wyneb yn wyneb yn y gymuned ac yn y gweithle neu drwy lwyfannau digidol.

"Gwyddom fod cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her sylweddol, ac rwy'n falch iawn bod cymaint o sefydliadau a phobl eisiau ymuno â ni wrth i ni fwrw ymlaen â'r dasg hon."