Â鶹ԼÅÄ

Miliwn o siaradwyr Cymraeg: 'Targedau bob pum mlynedd'

  • Cyhoeddwyd
alun DaviesFfynhonnell y llun, Senedd.tv
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alun Davies yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ddydd Mercher

Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod cyfres o dargedau bob pum mlynedd wrth geisio cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ôl Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, mae hi'n "annigonol" i osod un targed yn unig heb gefnogi hynny gyda chyfres o amcanion ac amserlenni i sicrhau eu bod nhw ar y trywydd cywir.

Dywedodd wrth Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad fod angen i'r broses fod yn agored a bod angen atebolrwydd.

Byddai'r llywodraeth felly yn gosod "fframwaith o dargedau" bob pum mlynedd fel rhan o "daith yr iaith" at 2050, meddai.

Ychwanegodd y byddai'r llywodraeth yn cynnwys targedau am faint o athrawon cyfrwng Cymraeg a gweithwyr sector cyhoeddus oedd eu hangen i ddiwallu gofynion y cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Bethan Jenkins AC, roedden nhw wedi derbyn tystiolaeth y byddai angen 70% yn rhagor o athrawon Cymraeg er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Wrth ateb, mynnodd Alun Davies fod traean athrawon Cymru yn medru'r Gymraeg, a rhan o'r her oedd gweld os oedd modd i fwy ohonyn nhw fod yn barod i ddysgu yn y Gymraeg.