Cofio Dic gan Idris Reynolds yn cipio Llyfr y Flwyddyn

Disgrifiad o'r llun, Mae Cofio Dic gan Idris Reynolds yn gasgliad o atgofion am un o'i gyfeillion, oedd hefyd yn un o feirdd amlycaf ail hanner yr 20fed ganrif

Idris Reynolds sydd wedi ennill prif wobr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn eleni, a hynny am ei gasgliad o atgofion am y prifardd a'r cyn-archdderwydd, Dic Jones.

Fe wnaeth Cofio Dic, gafodd ei gyhoeddi gan Wasg Gomer, hefyd gipio'r wobr yn y categori Ffeithiol Greadigol.

Roedd Aneirin Karadog, Caryl Lewis a Guto Dafydd ymysg yr enillwyr eraill yn y seremoni yn The Tramshed, Caerdydd nos Lun.

Yn y categorïau Saesneg fe wnaeth Alys Conran gipio tair gwobr, gan gynnwys y prif un, am ei nofel Pigeon.

£4,000 i'r prif enillydd

Mae enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000 a thlws arbennig wedi'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones, ac mae gwobr ychwanegol o £3,000 yn cael ei gyflwyno i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith.

Aneirin Karadog oedd yn fuddugol yn y categori Barddoniaeth, a hynny am ei gyfrol, Bylchau, gafodd ei chyhoeddi gan Barddas.

Yn fuddugol yn y categori Ffuglen roedd Caryl Lewis am ei nofel, Y Gwreiddyn (Gwasg Y Lolfa) - fe enillodd hi'r brif wobr llynedd am Y Bwthyn.

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd llyfrau Aneirin Karadog, Caryl Lewis a Guto Dafydd ymysg y rhai buddugol yn y categorïau Cymraeg

Guto Dafydd gipiodd wobr Barn y Bobl Golwg360 eleni, a hynny am ei nofel, Ymbelydredd.

Y panel beirniadu Cymraeg oedd y beirniad llenyddol Catrin Beard, y bardd a'r awdur Mari George, ac Eirian James, perchennog siop lyfrau yng Nghaernarfon.

Disgrifiad o'r llun, Alys Conran oedd un arall o brif enillwyr y noson

Yn y Saesneg fe wnaeth Alys Conran gipio'r brif wobr yn ogystal â Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies, a Gwobr People's Choice yr Wales Arts Review.

John Freeman oedd yn fuddugol yn y categori Barddoniaeth gyda'i gyfrol, What Possessed Me, a Peter Lord enillodd y categori Ffeithiol Greadigol am The Tradition.

Yr awdur Tyler Keevil, yr academydd Dimitra Fimi a'r bardd Jonathan Edwards oedd yn gyfrifol am feirniadu'r llyfrau Saesneg.

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Alys Conran, John Freeman a Peter Lord oedd yn fuddugol yn y categorïau Saesneg

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad arwyddocaol yn y calendr llenyddol yng Nghymru, ac yn gyfle gwych i ddathlu'n hawduron gorau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

"Llongyfarchiadau gwresog i'r holl enillwyr."