Â鶹ԼÅÄ

Llyfr y Flwyddyn: Cyhoeddi Rhestr Fer

  • Cyhoeddwyd
llyfr y flwyddyn

Mae naw cyfrol Gymraeg a gyhoeddwyd yn ystod 2016, wedi sicrhau eu lle ar restr fer 2017.

Y cyfrolau barddoniaeth Cymraeg a enwebwyd yw:

  • Bylchau, Aneirin Karadog

  • Chwilio am Dân, Elis Dafydd

  • Llinynnau, Aled Lewis Evans

Yn y categori ffuglen y cyfrolau a ddaeth i'r brig yw:

  • Y Gwreiddyn, Caryl Lewis

  • Ymbelydredd, Guto Dafydd

  • Iddew, Dyfed Edwards

Ac yn cystadlu am y wobr ffeithiol greadigol mae tair cyfrol am dri bardd sef:

  • Gwenallt, Alan Llwyd

  • Optimist Absoliwt, Menna Elfyn

  • Cofio Dic, Idris Reynolds

Y panel beirniadu Cymraeg eleni oedd y beirniad llenyddol Catrin Beard, y bardd a'r awdur Mari George ac Eirian James, perchennog siop lyfrau yng Nghaernarfon.

Dywedodd Catrin Beard: "Cafwyd llawer o drafod, ac roedd gan bob un ohonon ni ein ffefrynnau.

"Trueni mai ond tri ym mhob categori sy'n cael bod ar y Rhestr Fer achos mae rhai eraill teilwng iawn wedi gorfod cael eu hepgor."

Yn ystod y misoedd diwetha mae cryn drafodaeth wedi bod ar y wobr wrth i'r Gweinidog Economi Ken Skates awgrymu i'r Cyngor Llyfrau fel rhan o ad-drefnu ariannu diwylliant.

Mae Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi beirniadu'r argymhellion ac wythnos diwethaf bu cadeirydd yr adolygiad dadleuol, yr Athro Medwin Hughes, i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Mae gan Gwobr Llyfr y Flwyddyn dri chategori sef Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.

Yn Saesneg y rhai a fydd yn cystadlu am Wobr Farddoniaeth Roland Mathias yw:

  • What Possessed Me, John Freeman

  • The Other City, Rhiannon Hooson

  • Psalmody, Maria Apichella

Yn y categori ffuglen y rhai sydd wedi dod i'r brig yw:

  • Pigeon, Alys Conran

  • Cove, Cynan Jones

  • Ritual, 1969, Jo Mazelis

Ac yn cystadlu am y Wobr Ffeithiol Greadigol fe fydd:

  • The Tradition, Peter Lord

  • Jumpin' Jack Flash, Keiron Pim

  • The Black Prince of Florence, Catherine Fletcher

Wrth gyhoeddi'r rhestr fer dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Gyda'r cyhoeddiad yn digwydd yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd, gobeithiwn y bydd darllenwyr yn heidio i'w llyfrgell leol ac yn bachu ar y cyfle i fenthyca'r teitlau arbennig hyn, a phrofi cyfoeth ac amrywiaeth llenyddiaeth gyfoes Gymreig."

Bydd enillwyr y wobr yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn y Tramshed, Caerdydd ar nos Lun 13 Tachwedd.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o £3,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith.

Fe fydd modd dilyn y seremoni ar lif byw arbennig Cymru Fyw o'r noson.