Ateb y Galw: Martyn Geraint

Y cyflwynydd Martyn Geraint sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Rhydian Bowen Phillips wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Chwarae yn yr ardd yn y tŷ lle ges i fy ngeni yn Wdig ger Abergwaun. Cael fy nhynnu gan fy mrawd, Phil - roedd e'n reidio ar degan o dractor ac ro'n i yn y trêlyr.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Roedden ni'n chwarae kiss-chase ar yr iard yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton, Pontypridd, ac ro'n i wastod yn chaso Lisa Goodwin!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Beth sy'n dod i'r cof yn syth yw'r gêm bêl-droed enwog rhwng C'mon Midffîld a Pobol y Cwm yn ystod Eisteddfod yr Urdd, Dyffryn Nantlle 1990.

Ar ddiwedd y gêm daeth nifer o'r dorf ar y cae i weld y chwaraewyr a daeth cwpwl o blant tuag ata i, felly dyma fi'n paratoi i dynnu llun neu ysgrifennu llofnod. Ond be' 'do'n i ddim yn sylweddoli oedd bod Wali Tomos tu ôl i mi, a fe oedd y seren fawr roedd y plant eisiau ei weld!

Disgrifiad o'r llun, Sofi Maftyn, oeddan nhw isio fy otogfaff i!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wrth heneiddio, dwi'n crïo mwy a mwy. Dwi'n meddwl taw un o'r troeon d'wetha i mi grïo oedd tra'n gwylio sioe fyw Sound of Music. Mae'r caneuon yn f'atgoffa i o fy mhlentyndod ac o wylio'r ffilm gydag aelodau o'n nheulu sydd ddim gyda ni bellach.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, dwi'n cnoi fy ngwinedd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae 'na gymaint o lefydd prydferth yng Nghymru a dwi'n ffodus iawn i deithio ar hyd y wlad yn reit aml yn rhinwedd fy swydd. Ond y lle dwi'n trio cyrraedd os ydw i yn yr ardal yw'r maes parcio yn Abergwaun sy'n wynebu Wdig, Bae Abergwaun a'r porthladd.

Dyna lle ges i fy ngeni ond yn ogystal â hynny, mae gen i nifer fawr o atgofion melys iawn am wyliau gyda'r teulu a digwyddiadau yn yr ardal, fel chwilio am gocos yn y tywod ar y traeth, neu fynd am 'ramble' gyda Dad - oedd yn swnio mor gyffrous, tan i mi ddarganfod taw mynd am dro drwy'r caeau a'r coedwigoedd oedd ystyr ramble!

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Www! Cwestiwn anodd. Dwi'n dueddol o licio nosweithiau byrfyfyr, heb drefnu gormod. Felly mae nifer o nosweithiau yn dod i gof yng nghwmni teulu a ffrindiau amrywiol.

Hefyd dwi 'di mwynhau nifer o nosweithiau lle wnes i berfformio gyda'r grwpiau pop Treiglad Pherffaith a Ffenestri. Dwi'n cofio noson arbennig cyn gêm rhyngwladol yng Nghaerdydd pan chwaraeais i gyda Treiglad yng Nghlwb Ifor Bach a chael ymateb arbennig, cyn rhuthro draw i chwarae gyda Ffenestri yn y Top Rank gyda Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr, a chael ymateb gwych fan'na hefyd!

Ond llawn cystal â'r noson yna oedd y penwythnos yn 2016 yn Bordeaux, Ffrainc, yn gwylio Cymru'n chwarae pêl-droed yn yr Euros - bythgofiadwy!

Ffynhonnell y llun, Ffenestri

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Ffenestri wedi ailffurfio yn ddiweddar, gyda'r aelodau gwreiddiol, Geraint a Martyn, yn arwain y ffordd i'r genhedlaeth nesaf, Bryn a Siôn

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cristion, Cymro, Creadigol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Ffilm - Airplane!

Llyfr - O'n i'n dwli ar fersiwn Gymraeg o Tom Sawyer pan o'n i'n fach.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Bydden i'n hapus i gael sgwrs gydag unrhywun sydd eisiau siarad â fi! Dwi'n reit hapus fy myd ar hyn o bryd!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Roeddwn i'n ddyfarnwr pêl-droed am tua wyth mlynedd, ac fe gyrhaeddais i lefel lle o'n i'n medru dyfarnu yn 3ydd adran Cynghrair Cymru, neu fod yn llumanwr yn adrannau 1 a 2.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Paratoi ar gyfer y dyfodol! Licen i ddweud wrth bawb fy mod i'n eu caru nhw'n fawr a fyswn i'n cael diwrnod bant o'r diet...

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Mae Martyn wedi perfformio gyda nifer o enwau mawr dros y blynyddoedd - ond neb mwy nag Wcw ei hun!

Beth yw dy hoff gân a pham?

Cwestiwn anodd eto. Dwi'n dwlu ar gerddoriaeth - Cymraeg a Saesneg - ac anodd yw dewis dim ond un. Dwi hefyd yn dwlu ar gyfansoddi caneuon fy hun, a does dim teimlad tebyg i orffen cân lle 'da chi'n hapus gyda'r canlyniad.

Ond ar hyn o bryd, un o fy hoff ganeuon i yw Father's Song gan Matt Redman. Mae'n gân hyfryd, yn enwedig yn yr oes yma lle mae cymaint o blant a phobl sy'n byw mewn teuluoedd heb gariad tad am amryw o resymau.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Prawn cocktail - wnes i fynnu bo' pawb yn cael prawn cocktail yn ein priodas hyd yn oed!

Chicken fried rice, curry a chips - sef beth o'n i'n cael yn rhy aml o'r Chinese pan o'n i yng Ngholeg Cyncoed, Caerdydd.

Crymbl riwbob neu fwyar duon, cwstard a hufen iâ.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Billy Joel - dwi'n dwlu ar ei gerddoriaeth e, felly fyswn i'n gallu dweud taw fi sgwenodd a chwaraeodd y caneuon yna... am ddiwrnod o leia'!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Geraint Cynan