Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Dafydd Hywel

  • Cyhoeddwyd
Dafgydd HywelFfynhonnell y llun, S4C

Yr wythnos yma yr actor Dafydd Hywel sydd dan chwyddwydr Cymru Fyw wedi iddo gael i'w enwebu gan y .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cael pêl rygbi fel anrheg gan Siôn Corn. Gydag eira yn drwchus ar y llawr es allan i chwarae gyda John Francis (byw drws nesaf) - fe oedd canolwr Clwb rygbi Yr Aman.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Heblaw Brigitte Bardot, neb. Mwy o ddiddordeb mewn rygbi a chriced.

Disgrifiad o’r llun,

Brigitte Bardot yr unig un fyddai wedi llwyddo i dynnu llygaid Dafydd oddi ar y bêl rygbi

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dweud celwydd wrth Betty'r wraig.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Gwneud yn aml, gan fy mod wedi colli gymaint o ffrindie dros y blynyddoedd diwethaf.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Casáu rhywun cyn eu cyfarfod - a dwi ddim yn aml yn anghywir ar ôl eu cyfarfod beth bynnag.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dafydd yn chwarae Jac Daniels, un o gymeriadau poblogaidd cyfresi cyntaf Pobol y Cwm

Dy hoff ddinas yn y byd?

Dulyn, gyda Limeric yn ail agos iawn.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson yn Symi yng Ngwlad Groeg gyda'r teulu, a ffrindiau difyr fel Huw Ceredig a'i deulu a Dewi Pws. Noson arall fythgofiadwy oedd gyda ffrind agos ym Mae Abertawe rhyw 5 mlynedd yn ôl.

Oes gen ti datŵ?

Dim gobaith caneri- dwi'n casáu nodwyddau.

Beth yw dy hoff lyfr?

'Hosts of Rebecca' gan Alexander Cordell. Os byswn i wedi cael fy ngeni yn y cyfnod yna byswn i wedi ymuno â Twm Carnabwth a'r bois eraill. Dwi'n falch iawn o'r ffaith yr oeddwn yn 'Rebecca's Daughter' a 'Derfydd Aur' ynglŷn â hanes Merched Beca.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai Dafydd wedi mwynhau bod yn rhan o wrthryfel y werin yn erbyn cwmnïau'r tollbyrth

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Crys clwb rygbi Yr Aman. Gen i atgofion melys o fod yn gapten ar y clwb am ddwy flynedd.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

Byth yn mynd i'r sinema dyddiau ma'- gormod o special effects. Dwi ddim yn cofio pa ffilm oedd y diwethaf i mi weld ar y teledu chwaith.

Dy hoff albwm?

'Last Man Standing' gan Jerry Lee Lewis. Mae bron â bod bob un o recordiau Jerry Lee gennai, ond ges i hon gan y plant felly ma'n un arbennig.

Disgrifiad o’r llun,

Jerry Lee Lewis, un o arwyr Dafydd Hywel

Cwrs cyntaf, prif gwrs 'ta pwdin?

Prif gwrs - cinio dydd Sul mam.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio rhan helaeth o'r amser, ac weithiau byddaf yn textio, ond yn anaml. Dwi ddim yn fachan technolegol o gwbl.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

John Jenkins, Cymru Rydd. Wedi ei gyfarfod yn ystod gorymdaith Llywelyn yng Nghilmeri sy'n cael ei chynnal ddydd Sadwrn cyntaf bob Rhagfyr.

Pwy fydd yn Ateb y Galw'r wythnos nesaf?

Dewi Pws.