Weinstein 'wedi ceisio difetha gyrfa Ioan Gruffudd'
- Cyhoeddwyd
Mae Alice Evans, gwraig yr actor Ioan Gruffudd, wedi awgrymu fod Harvey Weinstein wedi ceisio difetha'i gyrfa hi a'i gŵr wedi iddi hi ei wrthod.
Mewn erthygl yn y Daily Telegraph dywedodd fod y cynhyrchydd ffilm wedi gofyn iddi fynd i ystafell 'molchi gydag ef er mwyn iddo allu ei "chyffwrdd" a'i "chusanu".
Yn dilyn y digwyddiad "sinistr" dywedodd nad oedd hi "erioed wedi cael ei hystyried ar gyfer ffilm Weinstein eto, a wnaeth Ioan ddim chwaith".
Mae llefarydd ar ran Ioan Gruffudd wedi cael cais am sylw.
'Prawf Harvey'
Daw ei sylwadau yn sgil nifer o honiadau eraill o aflonyddwch rhyw yn erbyn Mr Weinstein, sydd wedi arwain at ymchwiliadau heddlu yn yr UDA a'r DU.
Mae llefarydd ar ran Mr Weinstein wedi gwadu unrhyw honiadau o gyffwrdd oedd ddim yn gydsyniol.
Dywedodd Ms Evans fod y digwyddiad gyda Mr Weinstein wedi digwydd mewn bar gwesty yn Cannes yn 2002, pan oedd hi yno i hyrwyddo ffilm.
Roedd Ioan Gruffudd wedi cynnal clyweliad i Mr Weinstein y diwrnod cynt, meddai, a phan wrthododd hi ei gynigon fe ddywedodd: "Gobeithio aiff popeth yn iawn gyda dy gariad di."
Yn noson ganlynol mae'n dweud iddi fynd draw at Mr Weinstein, cyn iddo droi a holi "pwy wyt ti?" a cherdded i ffwrdd.
Ers hynny, meddai, mae hi wedi teimlo fod "dim siawns o gwbl" y byddai hi'n cael rhan mewn rhai ffilmiau "oherwydd rydw i eisoes wedi methu 'prawf Harvey'".
Ychwanegodd na fyddai fyth yn gwybod a oedd hi wedi cael ei rhoi ar ryw fath o 'restr ddu' oherwydd hynny, a bod y digwyddiad "wedi fy effeithio am flynyddoedd".
Ddydd Mawrth fe drydarodd: "Mae unrhyw un yn y busnes sydd yn dweud nad oedden nhw'n gwybod am Harvey Weinstein yn dweud celwydd."