Â鶹ԼÅÄ

Conner Marshall: Mam yn ailfyw anafiadau erchyll ei mab

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Nadine Marshall yn dweud bod "y galar a'r boen byth yn lleihau" yn dilyn marwolaeth ei mab

Rhybudd: Lluniau all beri loes

Mae'r darlun o Conner Marshall o'r Barri gydag anafiadau erchyll yn dal i beri poen i'w fam.

Ddwy flynedd a hanner yn ôl, fe ymosododd dyn ar Conner, oedd yn 18 oed, a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Nos Fercher fe fydd Nadine Marshal yn dweud wrth raglen Panorama nad yw'r "galar a'r boen byth yn lleihau."

Mae'r rhaglen, sy'n ystyried gyflwr y Gwasanaeth Prawf, yn clywed fod llofrudd Conner Marshall yn gyn droseddwr a oedd dal dan oruchwyliaeth pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Fe wnaeth y llofrudd, David Braddon o Gaerffili, sathru ar ei wyneb, ei gicio a'i daro droeon gyda pholyn metel.

Dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi mynd allan gyda'r bwriad o ymladd gyda rhywun.

Fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth a'i garcharu am oes ym mis Mehefin 2015.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nadine Marshall bod gan ei mab Conner synnwyr digrifwch gwych

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar 8 Mawrth wedi i Nadine Marshall ddweud hwyl fawr wrth ei mab.

"Roedd e fel diwrnod arferol... roedd e wedi cyffroi ac mewn lle da yn ei fywyd," meddai.

Dywedodd Conner wrthi y byddai'n dychwelyd y diwrnod canlynol i ddathlu ei phen-blwydd, a phan ddaeth cnoc ar y drws y bore wedyn, roedd yn meddwl mai Conner oedd yno.

Ond dau blismon oedd yno gyda'r newyddion am yr ymosodiad, a bod ei mab yn yr ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ni all mam Conner anghofio'r lluniau erchyll o'i mab

Aeth y teulu ar frys i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, a chlywed fod gan Conner anafiadau fyddai'n bygwth neu yn newid ei fywyd.

Wedi disgwyl am hir fe gafodd y teulu ei weld, a dyna'r delweddau ohono y mae Nadine Marshall yn methu anghofio.

"Roedd e mewn cawell i gadw'i ben yn llonydd - roedd ei wyneb yn llawn cleisiau a gwaed, ac roedd cwt enfawr ar ei dalcen," meddai.

"Roedd tiwbiau a pheipiau ymhobman - roedd e'n hollol ofnadwy.

"Pan dynnwyd y blanced yn ôl roeddech chi'n gallu gweld olion traed ar ei gorff."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Oherwydd ymchwiliad yr heddlu doedd dim modd cynnal angladd Conner am dros fis

Diwrnod yn ddiweddarach daeth un o'r meddygon i ddweud wrth y teulu nad oedd pethau'n edrych yn dda ac nad oedd Conner yn ymateb i sganiau o'i ymennydd.

"Rwy'n cofio eistedd yno'n meddwl 'gall hyn ddim bod yn digwydd - nid i fy mab i'," meddai.

Ar ôl pedwar diwrnod wrth ei wely fe wnaeth Nadine a Richard Marshall ffarwelio gyda'u mab am y tro olaf.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd organau Conner eu rhoi i dri pherson

Roedd Conner yn credu'n gryf mewn rhoi organau. Gan fod ei anafiadau mor ddrwg, dim ond ei iau a'i arennau oedd mewn cyflwr i'w rhoi, ond fe aeth yr organau i achub bywydau tri pherson.

Cafodd Ms Marshall ei gadael yn diodde' o Afiechyd Straen Ôl-Drawma (PTSD), ac mae'n ailfyw'r profiad yn aml. Nid yw wedi gallu dychwelyd i weithio.

Mae'n dweud fod clywed sŵn ambiwlans mewn drama deledu yn gallu dod â'r teimladau yn ôl yn syth: "Mae'n mynd â fi yn ôl i'r foment - yr oglau, y sŵn - mae'n erchyll a brawychus."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae lludw Conner yn cael eu cadw yng nghartref y teulu yn Y Barri

Er y profiad ofnadwy y mae'r teulu eisoes wedi profi, mae Ms Marshall yn credu bod y gwaethaf eto i ddod.

"Dwi ddim yn meddwl 'mod i wedi dechrau galaru go iawn eto," meddai. "Rwy'n gwybod nad yw e wedi mynd cynddrwg ag y mae'n mynd i fod.

"Rwy'n ei weld e fel twll enfawr yn y ddaear, a finnau ar ymyl y dibyn drwy'r amser.

"Rwy'n gwybod fod rhaid i fi fynd i waelod y twll a dod yn ôl mas - fe fyddai'n gwneud hynny, ond mae meddwl amdano'n frawychus."

Un sy'n wedi ymgyrchu ar ran y teulu yw AS Dwyfor Meironnydd Liz Saville-Roberts ac mae hi'n dweud fod angen ail-wladoli'r Gwasanaeth Prawf.

Ar raglen dywedodd Ms Saville-Roberts fod y drefn bresennol yn achos pryder.

"Mae 'na gwestiynau difrifol, roedd yna ddiffyg atebolrwydd. Yr hanes er preifateiddio yw bod 40% o'r staff oedd yn gweithio i'r Gwasanaeth Prawf (cyn preifateiddio) wedi mynd a bod nifer y troseddwyr difrifol oedd yn ail droseddu - bod y ffigwr wedi codi 26%," meddai Ms Saville-Roberts.

"De ni'n son am ddiogelwch y cyhoedd. I ba raddau mae eu hysgogiad i wneud elw yn goresgyn eu gwasanaeth i'r cyhoedd?"

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymateb drwy ddweud eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad iawn drwy gyflwyno newidiadau yn 2014, ond maen nhw yn cydnabod bod yna le i wella.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth: "Mae'r newidiadau allweddol a wnaed yn golygu fod tua 40,000 o droseddwyr nawr yn cael eu goruchwylio - troseddwyr na fyddai wedi cael eu goruchwylio a'u monitro o'r blaen oherwydd eu bod wedi bod llai na 12 mis yn y carchar."

  • Bydd stori Conner Marshall yn cael ei hadrodd ar raglen Panorama: Out of Jail: Free to Offend Again? am 19:30 ar Â鶹ԼÅÄ One nos Fercher 25 Hydref.