Â鶹ԼÅÄ

Dyn yn euog o lofruddio llanc 17 oed

  • Cyhoeddwyd
Conner Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Conner Marshall yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r ymosodiad

Mae dyn 26 oed wedi pledio'n euog i lofruddio Conner Marshall o'r Barri ym Mharc Carafannau Bae Trecco ym Mhorthcawl ar 8 Mawrth.

Fe wnaeth David James Braddon o Gaerffili bledio'n euog i'r cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd.

Bu farw Mr Marshall, 17 oed, yn Ysbyty Athrofaol, Caerdydd, bedwar diwrnod ar ôl yr ymosodiad difrifol.

Roedd yn gyn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bro Morgannwg, Y Barri.

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Kath Pritchard o Uned Archwilio Troseddau Arbenigol Heddlu De Cymru: "Roedd hwn yn ymosodiad ciaidd ar fachgen yn ei arddegau sydd wedi cael effaith anferth ar ei deulu a'i ffrindiau, ac sydd wedi dod â sioc a thristwch i ymwelwyr Bae Trecco a chymuned Y Barri.

"Fe hoffem ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth ac amynedd tra'r oeddem yn ymchwilio i lofruddiaeth Conner. Rydym yn gwybod fod digwyddiadau fel hyn yn gallu achosi pryder a phoen meddwl sylweddol. Does dim dwywaith bod cefnogaeth y gymuned wedi ein cynorthwyo i ddod â'r unigolyn oedd yn gyfrifol am lofruddiaeth Conner o flaen ei well."

Bydd David Braddon yn cael ei ddedfrydu ar 3 Mehefin.