Llunio rhestr fer o enwau ysgol Gymraeg newydd Hwlffordd

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Benfro

Disgrifiad o'r llun, Argraff artist o'r ysgol newydd yn Hwlffordd

Mae bwrdd rheoli ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn Sir Benfro wedi cyhoeddi rhestr fer o enwau posib ar gyfer yr ysgol yn dilyn ymateb "gwych" gan y cyhoedd.

Fe gafodd nifer o enwau eu cynnig gan bobl gyda chysylltiadau a thref Hwlffordd cyn bydd y rhestr yn cael ei ystyried yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus.

Dywedodd Cadeirydd y bwrdd rheoli, Tegryn Jones, fod yr ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn "wych, gyda nifer o syniadau ac argymhellion."

Yr enwau sydd ar y rhestr fer yw:

  • Ysgol Gymraeg Llwynhelyg;
  • Ysgol Gymraeg Glan-Cleddau / Ysgol Calon y Cleddau;
  • Ysgol Gymraeg Waldo Williams / Ysgol Bro Waldo Williams

Ychwanegodd Mr Jones nad oedd hi'n dasg hawdd i lunio'r rhestr fer.

"Doedd hi ddim yn hawdd, ond rydym yn teimlo bydd unrhyw un o'r enwau yn cynrychioli'r diwylliant ac athroniaeth yr ysgol pan fydd yn agor yn Medi 2018," meddai.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus nawr yn digwydd gyda disgyblion, rhieni ac aelodau o'r cyhoedd.

Bydd unrhyw argymhelliad gan yr ymgynghoriad yn gorfod cael ei dderbyn yn derfynol gan Gyngor Sir Benfro.