Â鶹ԼÅÄ

Ysgol Gymraeg newydd sbon i Sir Benfro?

  • Cyhoeddwyd
Pembrokeshire council headquarters in HaverfordwestFfynhonnell y llun, Ceridwen/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Pencadlys Cyngor Penfro

Fe allai ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sbon ar gyfer disgyblion 3-16 oed yn Sir Benfro gael ei hadeiladu ar Ffordd Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Bydd gofyn i gynghorwyr sir ystyried y cynllun mewn cyfarfod cyngor eithriadol fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 21 Ebrill.

Maen nhw dros agor ysgol cyfrwng Cymraeg yn Hwlffordd.

Yn wreiddiol, roedd swyddogion y cyngor yn ystyried , ac ar ôl hynny, ar safle presennol Syr Thomas Picton.

Mae'r cynnig newydd yn awgrymu adeiladu ysgol newydd sbon ar Ffordd Llwynhelyg.

Mae'r cyngor wedi cytuno i Gyfnewid Cytundeb amodol, sy'n dibynnu ar ganiatâd cynllunio boddhaol, a sêl bendith y Cyngor a Llywodraeth Cymru.