Galw ar S4C i chwarae rhan wrth geisio cyrraedd y miliwn

Disgrifiad o'r llun, Mae Cynog Dafis yn dweud bod gan S4C ran i chwarae er mwyn adfywio'r iaith

Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 35 oed mae galwadau ar i'r sianel chwarae rhan flaenllaw wrth geisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

Daw sylwadau Cynog Dafis, cyn Aelod Cynulliad a chyn Aelod Seneddol, mewn rhaglen ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, sy'n ystyried pa mor berthnasol yw rôl S4C i nod y llywodraeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywedodd Mr Dafis bod angen "meddwl o'r newydd" ynglÅ·n ag S4C, tra bod yr Arglwydd Elis-Thomas wedi galw am "ddiwygiad llwyr" o reolaeth y sianel.

Mae cadeirydd S4C wedi dweud ei fod yn cytuno bod angen i'r sianel "esblygu drwy'r amser", ond bod y sianel a'r broses greadigol o greu cynnwys "yn elfen greiddiol yn y broses o gadw'r Gymraeg yn fyw".

Yn siarad ar Radio Cymru, dywedodd Mr Dafis: "Allwch chi ddim gwahanu darlledu wrth yr holl bethau eraill sydd angen eu gwneud i gryfhau'r Gymraeg.

"Mae eisiau meddwl o'r newydd a gweld S4C fel ffynhonnell ar gyfer datblygu deunydd o bob math i gryfhau a datblygu lle'r Gymraeg yn y cyfryngau yn gyffredinol, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae hynny wedyn yn golygu bod S4C yn gweld ei hun yn rhan o'r prosiect i adnewyddu, adfywio a thyfu yr iaith Gymraeg yng nghyd-destun y miliwn."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Huw Jones bod S4C wedi cymryd "camau breision" i greu cynnwys ar gyfer platfformau digidol newydd

Mae Cadeirydd S4C, Huw Jones yn dweud bod y sianel yn "ymwybodol iawn bod ganddi rôl bwysig i'w chwarae yn y broses o gynnal a datblygu'r iaith o Cyw i Dal Ati, o Stwnsh i Hansh ac o gyfresi fel Cariad at Iaith i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y cyd ag ysgolion ar hyd a lled Cymru ar hyd y flwyddyn".

Ychwanegodd: "Mae yna eisoes gydweithio i ddatblygu defnyddiau addysgiadol ar y cyd â chyrff sy'n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru.

"Mae deunydd sylweddol o'r archif ar gael at wasanaeth ysgolion a cholegau drwy ein partneriaeth gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

"Mae sicrhau bod holl archif cyfoethog S4C ar gael i bwrpasau addysgiadol ac ar gyfer y cyhoedd yn un o amcanion sylfaenol ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol."

'Angen diwygiad llwyr'

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn dweud bod rhaid edrych o'r newydd ar beth yw byw mewn cenedl ddwyieithog, a sut mae creu cyfleoedd i ddwyieithrwydd.

Dywedodd: "Mae'n amlwg bod yn rhaid i'r holl ddiwydiannau cyfathrebu a'r diwydiannau digidol a'r holl gyfryngau sydd gyda ni drafod y materion yma gyda'i gilydd.

"Mae angen diwygiad llwyr yn llywodraethiad y sianel."

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Bydd S4C yn dathlu ei phen blwydd yn 35 oed ddechrau Tachwedd

Ychwanegodd bod angen sicrhau bod deunydd Cymraeg "ar bob cyfrwng, ar bob llwyfan".

"Rhaid cael pethau ar apiau ac yn y blaen, nid jyst ar un sianel. Rhaid cydweithio gyda chyfundrefnau eraill megis Google a Microsoft," meddai.

"Dwi'n meddwl bod rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rôl arweiniol - y ffordd ymlaen yw partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, cwmnïau masnachol ac awdurdodau darlledu - p'run ai ydan nhw'n Brydeinig neu'n rhyngwladol."

'Elfen greiddiol'

Ychwanegodd Mr Jones: "Rhaid peidio colli golwg ar yr un peth unigryw y mae S4C yn ei wneud, sef darparu ar y teledu, neu ar sgriniau bach, ar yr iPlayer a'r ffôn, wasanaeth Cymraeg amrywiol, gyda rhywbeth at bob chwaeth, bob dydd o'r wythnos ar hyd y flwyddyn.

"Yn naturiol, 'da ni'n cytuno bod yn rhaid i'r gwasanaeth esblygu drwy'r amser i gwrdd â gofynion gwylwyr a defnyddwyr fel maen nhw'n newid.

"Mae'r camau breision sydd wedi eu cymryd i greu deunydd ar gyfer y cyfryngau digidol yn rhan o hynny, ac rydym am wneud llawer mwy.

"Ond mae bodolaeth y gwasanaeth yma, a'r ffaith ei fod yn sbarduno ac yn dibynnu ar greadigrwydd a chynnwys gwreiddiol o bob math, yn elfen greiddiol yn y broses o gadw'r Gymraeg yn fyw yng nghartrefi'r bobl sy'n ei siarad eisoes, ac o roi'r cyfle i'r rheiny sydd ac a fydd yn awyddus i'w dysgu, i gamu i mewn i ddiwylliant cyfoethog a chyfoes Cymraeg unrhyw awr o'r dydd."

S4C a'r Miliwn - dydd Iau am 12:00 ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.