Â鶹ԼÅÄ

Cynllun miliwn o siaradwyr Cymraeg: 'Diffyg eglurder'

  • Cyhoeddwyd
Spin the wheel in Welsh
Disgrifiad o’r llun,

Nod y Llyowdraeth yw cael un miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae diffyg manylion ac eglurder yng nghynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Dywed y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fod perygl hefyd o ganolbwyntio "gormod ar newid categori iaith ysgol yn hytrach na gwella rhuglder disgyblion".

Mae'r pwyllgor yn dweud nad ydyn nhw wedi eu hargyhoeddi bod digon o dystiolaeth ynglŷn â'r adnoddau a'r buddsoddiad ychwanegol fydd ei angen er mwyn cyflawni'r nod, yn enwedig ym maes addysg blynyddoedd cynnar.

Bydd Llywodraeth Cymru'n trafod yr adroddiad cyn rhoi ymateb llawn, ond dywedodd llefarydd bod gwaith eisoes wedi ei wneud mewn sawl maes y mae'r adroddiad yn cyfeirio ato, a hynny yn dilyn cyfnod o ymgynghoriad ar gynlluniau drafft.

'Polisi radical'

Daeth aelodau'r pwyllgor i'r casgliad y bydd y system addysg yn chwarae rôl allweddol wrth gyrraedd y nod a bod yna "risg amlwg y gallai hyn gael effaith wyrdroadol ar gyflawni blaenoriaethau addysgol".

Mae cwestiynau am strategaeth Llywodraeth Cymru a'r sôn am symud ysgolion ar hyd y "continwwm ieithyddol".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd ysgol Llangennech yn troi o fod yn ysgol ddwyeithiog i un cyfrwng Cymraeg

Fe allai hynny olygu newid statws ysgol o fod yn ysgol ddwyieithog i un cyfrwng Cymraeg,

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad fod yna berygl o ganolbwyntio gormod ar newid categori iaith yr ysgol yn hytrach na gwella rhuglder disgyblion ym mhob ysgol.

Dywedodd Bethan Jenkins AC, cadeirydd y pwyllgor: "Gan fod 75% o ddisgyblion Cymru yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg, dydy'r pwyllgor ddim yn teimlo bod digon o sylw yn cael ei roi i ffyrdd eraill posibl o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg..."

"Gyda gwell canlyniadau, gallai ysgolion cyfrwng Saesneg fod yn ffynhonnell gyfoethog o siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol.

"Pe bai hynny'n digwydd, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos sut mae'n bwriadu gwella addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg."

'Angen targedau clir'

Dywedodd Ms Jenkins fod y pwyllgor yn llwyr gefnogi'r nod o sicrhau miliwn o siaradwyr gan ddweud y byddan nhw'n "adeiladol wrth drafod agweddau ymarferol ar sut y gellir gweithredu'r polisi radical hwn yn llwyddiannus".

"Mae'n amlwg, o ystyried y dystiolaeth, er mwyn cael llwyddiant bydd angen gwaith caled, adnoddau ychwanegol sylweddol a thargedau clir.

"Bydd hefyd angen iddo fod yn seiliedig ar gefnogaeth barhaus pobl Cymru, siaradwyr Cymraeg a'r rhai di-Gymraeg fel ei gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Carwyn Jones amlinellu ei weledigaeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn yn ystod Eisteddfod Y Fenni yn 2016

Un o'r meysydd sy'n hanfodol i lwyddiant y strategaeth, meddai'r pwyllgor, oedd addysg y blynyddoedd cynnar.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd angen 331 o ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg ychwanegol i gefnogi gweledigaeth y strategaeth.

Ond mae'r pwyllgor wedi dweud fod gweithwyr yn y maes yn cwestiynu'r ffigwr gan awgrymu y byddai angen mwy na 650.

Mae'r pwyllgor wedi argymell wrth Lywodraeth Cymru y dylai ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar fod yn flaenoriaeth wrth ystyried cyllid ychwanegol.

Mae cyfanswm o 23 o argymhellion yn yr adroddiad.

Targed 'bwriadol uchelgeisiol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod llawer o waith eisoes wedi ei wneud yn y meysydd sy'n cael sylw gan yr adroddiad.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies: "Fe fydd y strategaeth derfynol yn gosod cyfeiriad hirdymor, gan gynnwys nifer o fesuriadau i fonitro'r twf tuag at gyrraedd y miliwn.

Ychwanegodd fod y targed yn un oedd yn "fwriadol uchelgeisiol".

"Mae her yn ein hwynebu, ond rydym yn adeiladu o safle o gryfder."

Ym mis Ionawr, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws fod gan sicrhau fod plant o dan saith yn cael eu trwytho yn yr iaith.