Â鶹ԼÅÄ

ACau yn pryderu am ddatblygiad cwricwlwm newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Graham Donaldson
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Graham Donaldson yn arbenigwr ac yn ymgynghorydd addysg

Mae pwyllgor o ACau wedi dweud nad yw cynllun i newid cwricwlwm ysgolion Cymru yn "datblygu yn ôl y disgwyl".

Dywedodd Pwyllgor Addysg y Cynulliad bod anawsterau wrth roi gweledigaeth yr Athro Graham Donaldson ar waith.

Mae'r Athro Donaldson yn dadlau bod defnyddio technoleg gyfrifiadurol ym mhob gwers yr un mor bwysig â rhifedd a darllen, ac mae disgwyl i'r cwricwlwm newydd fod yn weithredol erbyn 2021.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gweinidogion yn hyderus mai'r cwricwlwm newydd yw'r ffordd iawn ymlaen.

'Cymhlethdod'

Roedd adolygiad yr Athro Donaldson wedi dweud y dylai athrawon gael mwy o hyblygrwydd i ddysgu o amgylch y cwricwlwm presennol.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle, bod gweledigaeth yr Athro Donaldson yn "gysyniadol i raddau helaeth".

"Er bod yn cael ei gefnogi, mae'n amlwg bod cymhlethdod drwy geisio troi ei weledigaeth yn rhywbeth y gallai gael ei weithredu," meddai.

Mae Ms Neagle wedi ysgrifennu llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams AS gan ddweud:

  • Bod tystiolaeth i awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gynnig arweinyddiaeth strategol gryfach wrth weithredu'r cynllun,

  • Nad yw ysgolion sydd wedi eu dewis i arwain y cynllun yn siŵr o'r disgwyliadau,

  • Mae camddealltwriaeth rhwng perthynas y gwaith asesedig a'r cwricwlwm,

  • Dylai'r cwricwlwm beidio dilyn model profiadau gwledydd eraill.

Mae Aelodau Cynulliad yn pryderu bod gormod o oedi wedi bod yng nghynllunio'r chwe phrif ran fydd yn ffurfio sylfaen y cwricwlwm.

'Diffyg arweiniad'

Un o'r ysgolion sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o'r cynllun gweithredol yw Ysgol y Strade, Llanelli. Mae'r ysgol wedi dweud wrth y pwyllgor: "Mae hi'n iawn i gael athrawon i greu ac adeiladu'r weledigaeth yma, ond cyn hir a hwyrach rydym i gyd angen un ddogfen i ddweud 'dyma'r yw'r model'.

"Ar hyn o bryd does gennym ni ddim byd tebyg i hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gweinidogion yn hyderus mai'r cwricwlwm newydd yw'r ffordd iawn ymlaen, ac y byddai ymateb i'r pwyllgor maes o law.

Ychwanegodd: "Drwy gyd fynd ag ymgynghoriad yr Athro Donaldson, fel mae'r gwaith yn datblygu rydym wastad yn asesu datblygiad y cynllun er mwyn ei gryfhau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Cenedlaethol y Prif Athrawon (NAHT) bod angen "gwell syniad sut bydd y cwricwlwm a'r system asesu yn gweithio yn y dyfodol".

Mae Undeb Athrawon yr NUT wedi dweud eu bod nhw'n dal i ddisgwyl "manylder y cynllun", a bod 'na "ddiffyg arweiniad a gweledigaeth yn nhermau trosglwyddo gweledigaeth arbennig yr Athro Donaldson i mewn i rywbeth gweithredol".

Mae'r corff arolygu ysgolion, Estyn wedi dweud: "Ar ôl blwyddyn o amser meddwl, mae hi'n amser cynyddu'r datblygiad."