Chwilio am enwau babis?

Ydych chi'n chwilio am enwau addas ar gyfer eich plentyn?

Dyma i chi 'chydig o help gan Cymru Fyw a'r Swyddfa Ystadegau (ONS).

Hon yw'r rhestr ddiweddara' o'r enwau mwyaf poblogaidd, o darddiad Cymreig, gafodd eu cofrestru y llynedd (2016) yng Nghymru.

Enwau o darddiad Cymreig yn 2016 (a'u safle ar y rhestr yn 2015): Bechgyn

1) Dylan 149 (1)

2) Harri 137 (3)

3) Osian 116 (2)

4) Tomos 83 (7)

5) Rhys 73 (5)

6) Jac 72 (4)

7) Evan 67 (6)

8) Morgan 64 (10)

9) Cai 58 (8)

10) Owen 57 (-)

Mae Dylan yn parhau i fod ar frig y rhestr eto eleni ac mae Morgan wedi tyfu mewn poblogrwydd ar ôl syrthio 'chydig yn y rhestr y llynedd. Owen ydy'r unig enw newydd i ymddangos yn y 10 uchaf.

Enwau o darddiad Cymreig yn 2016: Merched

1) Erin 114 (3)

2) Seren 112 (1)

3) Ffion 88 (2)

4) Megan 84 (4)

5) Alys 70 (7)

6) Mali 64 (5)

7) Eira 44 (-)

8) Cadi 38 (10)

9) Nia 38 (6)

10) Lowri 34 (-)

Mae Erin wedi cyrraedd brig y rhestr eleni, i fyny o'r trydydd safle. Mae Eira a Lowri yn enwau newydd yn y 10 uchaf yn 2016. Yn 2015, Carys ac Efa oedd yr enwau poblogaidd eraill yn y 10 uchaf.

Efallai o ddiddordeb...