Ateb y Galw: Carwyn Ellis

Tro'r cerddor â'r bandiau Colorama a Bendith, Carwyn Ellis, yw hi i Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Huw Stephens wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Rwy'n cofio bod yn Johnstown, Wrecsam a bod yn obsessed gyda'r Yellow Submarine. Hefyd, fi'n cofio clywed Abba am y tro cyntaf yng nghar fy Mam.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

O'n i'n hoff iawn o Madonna...

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Wel, nes i ddeud wrth ferch o'n i'n 'nabod bod fy ffrind, ei chariad hi, yn cario mlaen gyda merch arall. Fi'n lawer rhy onest. Dylen i ddim fod wedi gwneud hynna! O'n i'n ifanc iawn ar y pryd cofiwch. Dw i wedi dysgu bod hi'n LOT rhwyddach i gadw shtwm ers 'ny...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Rhai misoedd yn ôl, yn gwrando ar Little Green Apples gan OC Smith.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fi'n smoco weithiau, ond heblaw am hynny fi'n itha gwd ar y cyfan.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dinas, y cwm bach ger Trelech (rhwng Caerfyrddin a Sanclêr) ble oedd Mamgu yn byw, achos dyna ble mae'r rhan fwya o'n atgofion melys o fy mhlentyndod yn dod, ac mae'n lle hyfryd iawn.

Disgrifiad o'r llun, Grand Prix Singapore - lleoliad noson fythgofiadwy i Carwyn!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dw i wedi bod yn 'itha' lwcus o rhan amserau da. Fi wedi cael sawl noson bythgofiadwy! Yr un sy'n dod i'r meddwl nawr yw'r noson ar ôl i mi chwarae gyda'r Pretenders yn Singapore yn ystod y Grand Prix rhai blynydde nôl. 'Nethon ni whare'r gig, wedyn bwyta (ac yfed) fel brenhinoedd, watsio'r Grand Prix, wedyn hongian allan ym mar y gwesty am bach gyda Noel Gallagher, a wedyn off i ryw parti hollol ostentatious gyda holl bling bling y bobl Grand Prix, a phartïo tan y wawr. A phopeth am ddim!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cerddorol, gwallt coch.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Nes i ddarllen On Black Hill gan Bruce Chatwin yn diweddar - roedd hwnna'n brilliant, efallai'r llyfr gorau fi wedi darllen hyd yn hyn.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Richard Burton am y sbort a'r straeon. Neu Les Dawson am yr un reswm.

Disgrifiad o'r llun, Byddai Carwyn wrth ei fodd yn cael diod a sgwrs â'r actor byd-enwog o Bontrhydyfen, Richard Burton

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fi ddim yn hoffi hedfan.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Chwarae cerddoriaeth, yfed, smoco a bwyta fel mochyn.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Mae'n newid trwy'r amser ond ar y foment, mwy na thebyg y fersiwn demo o Rainbows and Bridges gan Blaze Foley achos mae'n gân fach perffaith a hiraethus, y math rwy'n hoffi fwya'.

Disgrifiad o'r llun, Beth sy'n well na Chinio Dydd Sul?

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Calamari / Cinio Sul / Tarten mwyar a hufen iâ.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Donald Trump.