Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Huw Stephens

  • Cyhoeddwyd
Huw Stephens

Tro'r DJ a'r cyflwynydd Huw Stephens yw hi i Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd ar fwrdd y gegin yng Nghaerdydd yn byta jaffa cakes a chanu Dewch i Briodi drosodd a drosodd i fy nhair chwaer. Fi ddim yn siŵr iawn pam, ond o'n i'n hoffi'r gân.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Beth o Neighbours - Natalie Imbruglia. Roedd hi'n mechanic yn y gyfres, ac roeddwn i yn ei ffansio hi. A Katie Holmes, aeth 'mlaen i briodi Tom Cruise.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mynd ar lwyfan yn Glastonbury i gyflwyno band, a llwyr anghofio enw'r band. Felly roedd rhaid i fi ddod bant o'r llwyfan, esgus bod rhywbeth yn bod ar y meicroffôn, a dod nôl 'mlaen ar ôl darllen enw'r band. 'Nai ddim eu henwi nhw, er 'nai byth anghofio enw'r band eto.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Fi'n crïo yn eitha rheolaidd. Yn y Steddfod roedd 'na rwbeth i 'neud fi grïo bob dydd. Ond ma' unrhywbeth gydag emosiwn agored, naturiol, cariadus neu drist yn 'neud i fi grïo. Y tro diwethaf oedd yn gwylio DIY SOS ar y teledu. Nes i ddal diwedd y rhaglen, lle roedd y teulu yn gweld cartref roedd y gymuned wedi ei adeiladu iddyn nhw. Anhygoel.

Disgrifiad o’r llun,

Tybed wnaeth Huw grïo pan gafodd ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, 2012?

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ddim wir, dim ond bwyta lot gormod o siocled.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ma' rhaid i fi ddweud Caerdydd, gan ma' dyna lle ges i fy ngeni a dyna lle fi'n byw nawr. Mae Ceredigion yn dod yn ail agos, achos ma' fy ngwraig yn dod o Dregaron a fi wedi bod yn lwcus gweld pa mor bert yw'r sir. 'Yn dyden ni'n byw mewn gwlad anhygoel? Ond rhowch Gaerdydd i fi unrhyw ddydd!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mynd i'r Magic Castle yn LA. Mae'n gastell lle ma' rhaid gwisgo'n smart yng nghanol Los Angeles, ac mae drws cudd yn agor mewn i'r castell. Wedyn ma' 'ne ryw chwech 'stafell yn llawn consurwyr yn 'neud tricie hud; y rhai gore weles i erioed. Roedd hi'n noson arbennig!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Tal, barfog ac amyneddgar (ish).

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw bob amser yn gwneud yn siŵr fod ei farf yn ddigon o sioe!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff ffilm ydi The Shawshank Redemption. Mae'n glasur, ac yn llawn golygfeydd cofiadwy ac arbennig. Mae'n gafael fi bob tro.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Bydde diod gyda Scarlett Johanssen yn neis iawn. Mae'n actores arbennig.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fi wir yn joio ca'l bath.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd am curry gynta'. Un enfawr. Seiclo rownd Caerdydd am dipyn yn gwrando ar fy iPod ar shuffle. Wedyn gweld teulu a ffrindie. Mynd i nofio am dipyn a wedyn setlo lawr o flaen y tân a gweld be ma' Heno wedi ei baratoi ar gyfer y noson.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Mae'n newid yn aml. Ond ma Design For Life yn un gwych.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n siŵr fod Huw wrth ei fodd ei fod wedi cael cyflwyno rhaglen deledu cyngerdd anhygoel y Manic Street Preachers yng Nghastell Caerdydd yn 2015

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cyntaf: bwyd môr. Prif gwrs: Bolognese. Pwdin: Tiramisu. MMMMMM!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Donald Trump.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Carwyn Ellis (Colorama).