Ateb y Galw: Huw 'Fash' Rees

Ffynhonnell y llun, S4C

Y cyflwynydd a'r steilydd Huw 'Fash' Rees sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Owain Wyn Evans wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf yw mynd yn y car gyda nheulu a ffrindiau i barc Rhydaman. Fi'n cofio oherwydd agorodd drws y car ac Alison, croten ffrindiau Mam a Dad, yn cwympo mas o'r car. Siom oherwydd i ni fyth gyrraedd y parc...

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Gil Gerard sef y prif gymeriad yn Buck Rogers in the 25th Century - wow!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Y cywilydd mwyaf erioed oedd canu deuawd gyda Delyth fy chwaer yng nghyfarfod pencwarter yn ifanc. Delyth yn gwrthod rhannu'r llyfr emynau a finne heb ddysgu'r geiriau... 'nes i lefain a chuddio dan fwrdd y sedd fawr!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

'Nes i grïo yn ddiweddar wrth weld lluniau trychinebus ffoaduriaid, yn cynnwys nifer o blant bach, oedd wedi boddi wrth geisio dianc a chwilio am loches.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Roedd Huw Stephens ar ben ei ddigon ar ôl cael Sash Huw Fash yn seremoni BAFTAs Cymru y llynedd

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Yfed lot gormod o goffi. Fi wrth fy modd â cafetiere ben bore a gwagau'r cyfan cyn 7.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le yng Nghymru yw capel yr Hen Fethel. Fan hyn claddwyd fy nhad ac mae'n brofiad emosiynol ymweld â'r bedd tra'n gwylio golygfa godidog y cwm lle ganwyd fy nhad. Fi hefyd yn mynychu'r oedfa yno ben bore dydd Nadolig tra bod y wawr yn torri.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Gyda ffrindiau yn Sitges yn Sbaen - gwyliau blynyddol gyda phobl sbesial. Alcohol, bwyd da a dodi'r byd yn ei le.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Siaradus, hapus, steilish.

Beth yw dy hoff lyfr?

Falling Leaves - llyfr storïau am hanes Siapan.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Lindy Hemming, y gynllunwraig gwisgoedd o Gymru. Hi oedd yn cynllunio holl wisgoedd y ffilmiau Bond.

Ffynhonnell y llun, Rex Features

Disgrifiad o'r llun, Byddai Huw wrth ei fodd yn cael diod a sgwrs â'r ddynes oedd yn gyfrifol am wardrob James Bond

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di a beth oeddet ti'n ei feddwl?

Dunkirk - trawiadol, emosiynol a chofiadwy. Wrth fy modd â ffilmiau hanesyddol.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Yfed gin a thonic gyda ffrindiau a theulu, yn hel atgofion digri.

Dy hoff albwm?

The Writing's On The Wall - Destiny's Child.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Moules marinière, Boeuf en Croute a Panacotta.

Ffynhonnell y llun, Huw Rees

Disgrifiad o'r llun, Roedd Huw wrth ei fodd pan gafodd greu ffrog briodas ei gyfaill a'i gyd-gyflwynydd, Siân Thomas

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Tom Ford, cyn-gynllunydd Gucci.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Elin Mai Davies