Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Owain Wyn Evans

  • Cyhoeddwyd
owain

Y cyflwynydd tywydd Owain Wyn Evans sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Wwww cwestiwn da. Dwi wastad yn cofio Mam yn canu pan o'n i'n fach, falle mor bell nôl a phan o'n i tua 4 oed. Ma' llais hollol anhygoel gyda hi, a pan dwi'n clywed hi'n canu nawr mae e bob tro yn mynd a fi nôl i'r dyddie cynnar yna yn Rhydaman. Buodd hi yn y grŵp Cymraeg Y Tylwyth Teg am flynydde, hi a'i brodyr!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Jesse Spencer o'r opera sebon Neighbours. Ond wrth gwrs, o'n i byth 'di dweud wrth neb achos wnes i ddim dod mas tan o'n i tua 17 oed!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O wna'i fyth anghofio ymddangos ar Mastermind Cymru gyda Betsan Powys yn cyflwyno ar faes yr Eisteddfod yn Abertawe, yn chware yn erbyn Branwen Gwyn. O'n i'n cyflwyno Ffeil ar y pryd ac oedd Branwen yn gyflwynydd ar Stwnsh. O'n i'n OFNADWY! Fi'n credu ces i tua 1 cwestiwn yn iawn mas o 10… Hunllef!

Disgrifiad o’r llun,

Ai sgiliau feiolin Jesse Spencer (Billy Kennedy ar 'Neighbours') a ddenodd Owain?

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wythnos yma a bod yn onest, a hynny wrth wylio rhaglen hollol anhygoel ond trist iawn o'r enw India Partition yn sôn am be' ddigwyddodd i filoedd o bobl yn ystod rhaniad India yn 1947.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Rhoi gormod o hairspray ar fy ngwallt. Dwi'n gwylltio merched colur Look North achos dwi'n gwneud fy ngwallt sawl gwaith cyn y rhaglen.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Hmmm cwestiwn anodd iawn! Dwi'n gweld ishe Cymru'n fawr, gan fy mod i bellach yn byw yn Llundain a Leeds. Rhydaman yw fy ngartre, ond dwi wrth fy modd â Chaerdydd - wnes i fyw yno am ddeng mlynedd. Dinas hyfryd, a llawer o atgofion hapus iawn yno.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson fy mhriodas! Wnes i yfed lot gormod o Prosecco a dawnsio trwy'r nos, gan ddwyn sodlau uchel fy ffrind Elin James Jones ar un adeg hefyd. Yn ôl pob sôn o'n i'n eithaf demanding gyda'r disco hefyd - yn galw am ganeuon Céline Dion neu Britney Spears yn unig, ond wrth gwrs, dwi ddim yn cofio hynna.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Owain lawer o hwyl yn ei briodas ag Arran, diolch i'w gyfeillion Céline a Britney!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Lliwgar. Siaradus. Cochyn.

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi ddim yn darllen lot, ond dwi yn hoff iawn o lyfrau coginio. Dwi newydd ddarllen llyfr ffab am fathau gwahanol o fara!

Byw neu farw gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Terry Wogan. Cyflwynydd anhygoel, doniol a chynnes.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di a beth oeddet ti'n ei feddwl?

Wnes i wylio Harry Potter and The Deathly Hallows wythnos yma - wnes i dreulio hanner yr amser wedi drysu'n llwyr.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

O cwestiwn anodd Cymru Fyw! Bwyta lot o fwyd da, yfed gwin neis, a threulio amser gyda fy nheulu yn fy hoff le, pentre' Benaulim yn Ne Goa, India.

Disgrifiad o’r llun,

Ym mhentref Benaulim, De Goa, gwnaeth Owain gyfarfod â Shiva, sydd yn siarad Cymraeg!

Dy hoff albwm?

Dwi'n hoff iawn o'r grŵp The 1975 - mae eu albwm cynta' nhw The 1975 yn ffab.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - bwyd Groeg, falle hummus a bara? Prif gwrs, pysgod... dwi wrth fy modd a physgod! A chaws yn lle pwdin... bob tro!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Hmmm mwy 'na thebyg seren ryngwladol... rhywun fel Justin Timberlake, jest er mwyn gweld sut fywyd sy' gan bobl fel hynna!

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Huw 'Fash' Rees