Ateb y Galw: Catrin Dafydd

Yr awdur Catrin Dafydd sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Yvonne Evans yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Clywed cerddoriaeth Grandstand yng nghartre' cynta'r teulu yn Brithdir Street, Cathays. Does dim syndod fy mod i wedi troi mas i fod mor hynod o sporty.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Jabas Jones. Y dyn perffaith.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Anghofio geiriau mewn drama ysgol a newid trywydd yr holl gynhyrchiad gydag un llinell.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Yn ddiweddar iawn. Nos Lun oedd hi. Mae crio yn llesol ofnadwy. Erbyn bore Mawrth, roedd yr aer wedi clirio.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gormod i'w rhestru! Ond pan holais fy rhieni, ateb fy mam oedd nad oeddwn i byth yn cario digon o newid mân.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mynydd y Garth. Mae modd cymryd stoc yno. Ym mhob tywydd.

Ffynhonnell y llun, Gomer

Disgrifiad o'r llun, Catrin yn rhoi darlleniad o 'Random Births and Love Hearts'- ei llyfr o 2015, ac sy'n dilyn ei nofel 'Random Deaths and Custard'

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae gen i gof ofnadwy ond dwi'n trio peidio mesur pethau yn y ffordd yna beth bynnag. 'Wy ar fy hapusaf gyda'r teulu a ffrindiau gorau a phethau syml iawn sy'n fy ngwneud i'n hapus erbyn hyn.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Creadigol. Presennol. Gwleidyddol.

Beth yw dy hoff lyfr?

Mae cymaint, ond Vernon God Little gan DBC Pierre yw un ohonyn nhw.

Byw neu farw gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Os ydw i'n farw, Hugo Chávez, Nina Simone a Iolo Morganwg. Os ydw i'n fyw, Merched Caerdydd, Caerfyrddin a chriw Ciwba mewn gwlad boeth.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di a beth oeddet ti'n ei feddwl?

Inside Out gyda fy nith. Digon difyr a themâu pwysig i blant ac oedolion.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i nofio, yfed coffi da a cheisio gweld pawb 'wy'n eu caru (fyddai'n her o ystyried hewlydd Cymru!)

Disgrifiad o'r llun, Catrin gyda Llinos Penfold ar raglen Heno yn trafod ymgyrch Shwmae Sumae

Dy hoff albwm?

Stevie Wonder, Talking Book.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Platied o bethe da i ddechre, pysgodyn fel cegddu yn brif gwrs a chrymbl Mam-gu i bwdin.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

I 'weud y gwir, 'se well gen i ganolbwyntio ar fod yn hapus yn fy nghroen fy hunan na dechre potsian. O wneud, falle fydden i'n darganfod mor wych mae pethau ar yr ochr arall ac yn difaru!

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Catrin Heledd

Mae Gwales (Y Lolfa), nofel ddiweddara' Catrin Dafydd ar gael yn y siopau nawr.