Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Yvonne Evans

  • Cyhoeddwyd
yvonne

Yvonne Evans, cyflwynydd tywydd S4C, sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Rwy'n cofio ymestyn fy nwylo mewn i bot paent yn nhŷ fy Mam-gu a sychu'r holl baent ar fy ffrog. Ffrog o wlân oedd hi wedi ei gweu yn ofalus gan fy Mam-gu. Yn ffodus ddigon fe ddiflannodd y paent yn y golch.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Owain Gwilym yn chwarae rhan Jabas yn y gyfres deledu Jabas Jones. Roeddwn wrth fy modd â Jabas ac yn edrych ymlaen yn fawr i wylio bob pennod. Fe ddaeth Owain i Ysgol Gynradd Aberaeron fel rhan o daith ysgolion a wna'i fyth anghofio meddwl: 'Wow, ma' Jabas yn yr ysgol!'

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed

Nid yw'n addas i ymhelaethu yma!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wrth ddarllen erthyglau a gwylio'r newyddion am drychineb Tŵr Grenfell. Roeddwn yn Llundain pan ddigwyddodd y tân a bum draw i'r ardal yng ngogledd Kensington â bagiau o ddillad.

Mae'n anodd credu bod y fath beth wedi gallu digwydd yn yr oes sydd ohoni. Yn anffodus mae'n dangos nad yw pobl mewn awdurod yno bob tro i wasanaethau yn gywir dros y bobl maen nhw'n ei gynrychioli a mae hynny yn fy nghorddi yn fawr.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fydd 'na chydig o haul ar faes y Steddfod yr wythnos hon?

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Rwy'n anobeithiol am daflu pethau. Nes i ddod o hyd i daleb a oedd yn dyddio yn ôl i fy nyddiau coleg yn 1999 yn ddiweddar! Ond wedi dweud hynny mae 'na werth hanesyddol i ddarllen beth oedd pris nwyddau a bwyd bron i ugain mlynedd yn ôl!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae 'na gymaint i ddewis gan fod Cymru yn wlad hardd iawn. Traeth y De yn fy nhref enedigol Aberaeron. Yno rwy'n mynd bob tro rwyf adref ac wedi bod yn mynd i'r traeth ers yn blentyn. Mae eistedd o flaen y môr beth bynnag yw'r tywydd ym mhob tymor yn gwneud lles i'r enaid.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Cymru yn ennill yn erbyn Iwerddon yn rownd yr wyth ola yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 2011. Mi ro'n i yno gyda fy rhieni a fy chwaer yn Stadiwm y Westpac yn Wellington, Seland Newydd. Roedd hi'n noson wefreiddiol a dyma oedd y tro cyntaf i Gymru gyrraedd y rownd gyn derfynol ers 1987.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Tosturiol, di-dwyll, siaradus.

Beth yw dy hoff lyfr?

Long Walk To Freedom, hunangofiant Nelson Mandela. Mae hwn yn drysor o lyfr ac fe ddylai fod ar restr darllen pawb. Profiad anhygoel oedd cwrdd â Nelson Mandela yn niwedd y 1990au ac ymweld â'r carchar lle bu yn garcharor am 27 mlynedd ar Robben Island.

Byw neu farw gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Buaswn yn hoffi cael diod yng nghwmni sawl un arbennig, dyma nhw:

Ray Gravell - bûm yn gweithio am flynyddoedd gyda Grav, bu farw yn rhy ifanc. Roedd yna wastad hwyl yn ei gwmni ac roedd llawer o chwerthin.

Disgrifiad o’r llun,

Y cawr o Fynydd-y-Garreg a ffrind annwyl i Yvonne, Ray Gravell

Y cyn athletwr Colin Jackson - rwy'n edmygwr mawr o'i yrfa, gŵr hyfryd a hynaws.

Sarah Jane Rees 'Cranogwen' - bardd oedd hefyd yn dysgu morwriaeth i longwyr Ceredigion. Yn ysbrydoliaeth i fenywod, yn enwedig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ryan Davies - gŵr dawnus, byddai'n dda cael cân ac adloniant yn ei gwmni.

Dr John Davies - yn gweld ei eisiau yn fawr, tad fy mhartner. Wastad yn gwmni difyr iawn a'i wybodaeth yn anhygoel.

Maya Angelou - bardd ac ymgyrchydd hawliau dynol. Menyw ysbrydoledig.

Jack Jenkins - fy hen-nhadcu, erioed wedi cwrdd ag e ond wedi clywed cymaint amdano. Yn gyn-löwr ym mhyllau glo Cwm Rhondda ond fe ddychwelodd wedi damwain i weithio a gwasanaethu yn agos at ei gartref yng Ngheredigion.

Dolly Parton - wrth fy modd gyda'i chaneuon a'i phersonoliaeth.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di a beth oeddet ti'n ei feddwl?

Dunkirk gan y cyfarwyddwr Christopher Nolan. Yn ffilm ryfeddol yn adrodd hanes pwysig a dirdynnol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael parti mawr gyda theulu a ffrindiau a Bob Delyn a'r Ebillion yn canu!

Dy hoff albwm?

Ffoaduriaid - Steve Eaves. Mae'r casgliad cynhwysfawr gennyf yn y car ac y byddaf yn gwrando yn aml wrth yrru, mae'n gwneud pob taith gymaint yn fwy pleserus.

Disgrifiad o’r llun,

Steve Eaves, yn bresennol yng nghar Yvonne bob tro tra mae hi'n gyrru

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - Mozzarella, tomato a basil.

Prif gwrs - Stecen gyda sglodion a salad.

Pwdin - Hufen-iâ fanila.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Usain Bolt - buaswn yn rhedeg fel mellten!

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Catrin Dafydd.