Â鶹ԼÅÄ

Cynnydd o 20% mewn allforion bwyd a diod o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Bwyd

Mae gwerth y bwyd a diod sy'n cael eu hallforio o Gymru wedi cynyddu bron i 20% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae data dros dro ar gyfer y llynedd yn dangos bod gwerth allforion bwyd a diod o Gymru wedi codi i £337.3m - cynnydd o 19.8% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2015.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru osod nod o dyfu'r sector bwyd a diod yng Nghymru o 30% erbyn y flwyddyn 2020.

Mae'r sector eisoes yn un o'r mwyaf yng Nghymru, gan gyflogi dros 223,000 o bobl, ac mae werth dros £17bn i economi'r wlad yn flynyddol.

72% i'r Undeb Ewropeaidd

Cig a chynhyrchion cig oedd ar frig y rhestr o allforion am y flwyddyn, ac roeddent yn gyfrifol am bron i 22% o'r holl allforion bwyd a diod.

Yr UE sy'n mewnforio'r rhan fwyaf o fwyd a diod o Gymru - 72.4% o'r cyfanswm - ond mae cynnydd wedi bod yn yr allforion i'r Dwyrain Canol a gogledd Affrica hefyd.

Fe allai Brexit olygu newid i hynny, ond er bod nifer o ffermwyr yn pryderu am golli cymorthdaliadau o Ewrop, mae Ysgrifennydd Amgylchedd llywodraeth y DU, Michael Gove wedi addo cynnal yr un lefel o gymorthdaliadau nes 2022.

Ond wrth groesawu'r ffigyrau, dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths y bydd gadael yr UE yn "amser anodd" i'r sector.

"Mae amser anodd o'n blaenau'n ddi-os. Yr UE yw'r prif gwsmer ar gyfer ein cynnyrch o hyd, a hynny o bell ffordd," meddai.

"Mae'n dystiolaeth bellach o fygythiad Brexit caled i'n heconomi, a dyna pam rydyn ni'n parhau i bwyso ar lywodraeth y DU i flaenoriaethu mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl, ac i osgoi codi unrhyw rwystrau newydd sy'n llesteirio busnesau bwyd a diod Cymru rhag gweithio'n effeithiol.

"Fodd bynnag, mae'r cynnydd mewn allforion i farchnadoedd y tu allan i'r UE yn galonogol i ni. O ystyried ansawdd y cynnyrch sydd gennym yng Nghymru, dw i'n hyderus y gallwn barhau i wneud cynnydd ardderchog mewn marchnadoedd newydd."