Â鶹ԼÅÄ

Brexit: Bendith neu felltith i ffermwyr Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Ffermwr yn bwydoFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth i'r camau nesaf i adael yr Undeb Ewropeaidd gael eu trafod mae rhai ffermwyr yn ofni y byddai Brexit caled yn lladd eu busnes.

Nos Lun ar raglen Panorama Â鶹ԼÅÄ1 bydd dau ffermwr o Gymru yn rhannu dwy farn wahanol - y naill am adael yr UE a'r llall am aros.

"Un o'r prif resymau y gwnes i bleidleisio o blaid gadael yr UE oedd oherwydd fy mod yn ffermwr ifanc yn edrych tua'r dyfodol," meddai Jacob Anthony.

Mae'r ffermwr 24 oed yn byw ym Mhen-y-bont ac yn ffermio gyda'i dad a'i dadcu ar fferm sy'n cadw gwartheg a defaid.

"Rwy'n credu bod nifer ohonom yn y diwydiant amaeth ddim yn hapus gyda'r ffordd oedd pethau'n mynd ac felly roedd y bleidlais llynedd yn cynnig cyfle oes i ni am newid realistig," ychwanegodd.

Mae Mr Anthony yn mynnu nad yw penderfyniadau Ewrop ar ffermio yn gweithio.

"Ar y funud, dim ond un polisi amaethyddol sydd 'na a mae hwnnw i fod yn addas i'r 28 cenedl sydd oddi fewn i'r UE," dywedodd.

"Mae'r polisi amaethyddol i fod yn addas i wledydd sy'n ffermio ceirw yn y Gogledd a ffermwyr sy'n tyfu olifau yn y Canoldir."

Ychwanegodd ei fod yn credu fod ffermwyr Prydain yn "helpu gwledydd tramor" ac yn gwella eu sgiliau amaethu er mwyn iddynt ddod yn "gystadleuwyr gwell".

'Sefydlu cysylltiadau masnachol newydd'

Mae Mr Anthony hefyd yn awyddus i anfon ei wartheg i farchnadoedd newydd - er enghraifft gwledydd fel Tsieina.

"Rwy'n teimlo bod gadael yr UE nawr yn rhoi cyfle newydd i ni drafod a sefydlu cysylltiadau masnachol newydd.

"Beth am gael cytundebau busnes newydd - cytundebau nad oedd yn bosib i'w cael tra'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd?"

Ond barn wahanol sydd gan John Davies, sy'n ffermio ym Merthyr Cynog, ger Aberhonddu.

Mae Mr Davies yn rhedeg fferm sydd wedi bod yn ei deulu ers dros ganrif ac mae e'n llai optimistaidd am fywyd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

"Mae 'da fi gyfrifoldeb i'r genhedlaeth nesaf. Wedi'r cyfan, gofalwyr Å·n ni ar gyfer y genhedlaeth nesaf," meddai.

Mae Mr Davies yn byw ar y fferm gyda'i wraig, eu dau blentyn a'i dad ac mae pawb yn helpu gyda'r gwaith o gynnal y cannoedd o ddefaid sydd ar y fferm.

Fe bleidleisiodd e dros aros yn yr UE gan ei fod yn gweld peryg i ffermwyr petai cytundeb Brexit gwael yn dod i rym.

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Davies yn ddirprwy lywydd NFU Cymru

"Mi allai Brexit gael effaith andwyol ar ein gallu i gynhyrchu bwyd ac mae cymorthdaliadau cyson yn hanfodol i ffermwyr mynydd," meddai.

Mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd Michael Gove wedi addo cynnal yr un lefel o gymorthdaliadau tan 2022 ond mae gan Mr Davies bryderon eraill.

"Mae masnach mor bwysig i ffermwyr mynydd gan bod oddeutu 40% o'n hŵyn yn cael eu hallforio - ac y mae bron i 95% o'r rheiny yn mynd i'r UE.

"Rhaid i ni gael masnach rydd gydag Ewrop - a rhaid i safon y bwyd sy'n cael ei fewnforio a'i allforio fod gystal â'i gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Gove yn honni y bydd Brexit yn cynnig cyfle "hanesyddol" i ail-siapio y polisi amaethyddol ar gyfer ffermwyr a defnyddwyr

"Heb safonau," meddai Mr Davies, "rwy'n ofni mewnforion, hormonau, safon y bwyd sydd wedi'i roi i'r anifeiliaid - mae'n anifeiliaid ni yn cael porfa dda ac mae safonau amgylcheddol yn uchel ac ry'n yn falch o hynny."

Mae Mr Davies yn credu bod angen polisi amaethyddol sy'n adlais o gyfnod y rhyfel, sef y dylid tyfu y bwyd ry'n yn ei fwyta.

Mae'n ofni y bydd Brexit yn newid cefn gwlad a thynged ffermwyr Prydain am byth.

Bydd y rhaglen Panorama - Britain's Food & Farming: The Brexit Effect i'w gweld ar nos Lun, 10 Gorffennaf ar Â鶹ԼÅÄ1 am 20:30 ac wedi hynny ar .