Ateb y Galw: Catrin Mara

Catrin Mara sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Non Parry yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Cropian ar garped royal blue.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Jason Connery (Robin of Sherwood, 1986) cyn symud 'mlaen i Morten Harket 'A-ha'.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na restr hirfaith o'r rhain felly mi rannaf yr un mwyaf diweddar... Llithro yn fflat ar fy ngwyneb ar decking gwlyb mewn pâr o wedges uchel iawn tra'n siarad efo James Dean Bradfield (Manics) gan chwalu gwydr o win coch. Roedd pawb yn meddwl fy mod i wedi brifo' n ddifrifol am bod hylif coch ym mhobman - Rioja. Roedd gen i gymaint o gywilydd - fy ego yn unig gafodd niwed.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Yn darllen geiriau Becky Williams am ei gŵr Irfon Williams. Dyn arbennig. Ysbrydoliaeth a cholled enfawr. Mae Becky hefyd yn anhygoel o ddynes.

Ffynhonnell y llun, Cwmni'r Fran Wen

Disgrifiad o'r llun, Catrin yn ymarfer ar gyfer y ddrama Fala' Surion, Cwmni'r Frân Wen

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes. Yn achlysurol.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Saundersfoot. Er na fyddech yn gwbod eich bod yn Nghymru yn anffodus (llinell Lansker) mae'r lle'n dod ag atgofion melys iawn i mi am fy mhenwythnos plu a phriodas arbennig.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae gen i ffobia o ysbytai ond... Ysbyty Gwynedd ar ôl geni fy mhlentyn cyntaf. Ward dawel a dim i'w wneud ond gwirioni efo'r peth bach heb syniad beth oedd o 'mlaen i. Syrthio mewn cariad.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Llawen. Emosiynol. Byrbwyll.

Beth yw dy hoff lyfr?

Un?!! O ran creu argraff mi feichiais i grio ar drên yn darllen Wuthering Heights nes ofynnodd rhywun i mi os o'n i'n iawn. Heb ddarllen fel yr oeddwn (lot) ers cyn cael plant.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Huw Lloyd Edwards (Taid i fi, ond dramodydd i lawer mwy o bobol). Ches i erioed y fraint o gwrdd â fo ond yn ôl y gwybodusion (Nain/Mam ac Ann) mi fydden ni 'di bod yn uffar o fêts. Alla i'n gweld ni'n creu cymeriadau a'u sgetsio nhw.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

The Big Short. Cymeriadau cwbwl ddi-egwyddor, ond actio ardderchog. Dim trais - fedra i ddim gwylio ffilmiau treisgar. 'Nes i bara 10 munud ar 12 Years a Slave ac roedd rhaid i mi adael, mae anghyfiawnder yn fy ngwneud i'n bryderus i'r pwynt na fedra i gysgu.

Disgrifiad o'r llun, Catrin gyda'i thad Elfyn, yn cael ei chyfweld gan Nia Roberts ar gyfer y rhaglen Tra bo Dau ar Radio Cymru

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Macabre! Byw am y foment efo fy nheulu a ffrindiau efo soundrack da... dawnsio!

Dy hoff albwm?

Aaaa! Pet Sounds gan The Beach Boys... ond... am gwestiwn anodd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf ond lot ohonyn nhw. Tom yam - bwyd môr o Wlad Thai efo salad papaya wedyn Wakame o Japan efo sashimi.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

'Swn i'n licio bod yn esgidiau fy ngŵr Eur i weld os ydw i'n ei nagio gymaint â dwi'n meddwl fy mod i.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Alys Williams