Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Non Parry

  • Cyhoeddwyd
nonFfynhonnell y llun, S4c

Non Parry sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan .

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Gwylio Scooby Doo drwy ffenest, tu allan i'r tÅ·.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Morten Harket o A-ha.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Snot yn hedfan allan o'n nhrwyn i tra'n canu unawd mewn cyngerdd pan o'n i tua 13.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Mae unrhywbeth (da neu ddrwg) yn 'neud i fi grio felly dwi'n crio pob dydd! Wil fy mab yn deud bod o'n ddiolchgar mod i'n dreifio fo i llefydd nath o ddoe. Dwi'n pathetic.

Disgrifiad o’r llun,

Non yn canu fel rhan o'r triawd poblogaidd, Eden

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n flêr ofnadwy. Dwi'n gadael lot o rybish yn y car.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Trefdraeth. Mae o tua 10 munud o'n tÅ· ni ac felly yna pob penwythnos bron iawn gyda'r plant. Traeth, pyb, peint, pop a crisps yn draddodiad pob p'nawn Sadwrn.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Aeth Iwan a fi i Florida ac Efrog Newydd ar ein mis mêl, a tra yn Efrog Newydd mynd i weld David Hasslehoff mewn sioe. Odd y ddau ohonon ni wedi meddwi braidd ac roedd y sioe mor ofnadwy o'dd o'n HILARIOUS. A wedyn nath Iwan pwsho fi i'r ffrynt i deud helo wrth yr Hoff wrth iddo adael y theatr. Odd raid ti fod yna rili, ond ar y pryd dwi'n cofio chwerthin LOT.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Byr, hamddenol (neu gair gwell am relaxed!), di-drefn.

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Non ar y gyfres goginio boblogaidd, Pryd o Sêr

Beth yw dy hoff lyfr?

Morgan a Magi Ann yn Prynu Ci (atgoffa fi o tÅ· Nain).

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Greg Davies (y comedïwr). Sneb yn neud i fi chwerthin mwy na fo. A mae o'n edrych yn rili neis a normal.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Moana. Ciwt a doniol iawn. A neis gweld bach o haul.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Bwyta lot.

Dy hoff albwm?

The 1975 gan The 1975

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?

Pwdin; Crème brûlée... neu unrhywbeth efo cwstard.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Beyoncé (ar ddiwrnod ffilmio fideo yn arbennig!)

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Catrin Mara