Galw ar bobl ifanc i ddewis enw senedd ieuenctid Cymru

Gallai pobl ifanc gael y cyfle i ddewis eu henw eu hunain ar gyfer senedd ieuenctid i Gymru, fel rhan o gynlluniau sydd eisoes wedi derbyn sêl bendith ACau.

Bydd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones yn lansio'r ymgynghoriad ffurfiol ddydd Gwener yn ei hen ysgol, Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan.

Llynedd fe bleidleisiodd Aelodau Cynulliad o blaid sefydlu'r corff, yn dilyn cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig gafodd ei gefnogi gan yr holl bleidiau.

Dywedodd Ms Jones y byddai'n "gyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan fel dinasyddion".

'Syniadau gwreiddiol'

"Dwi'n teimlo fod senedd ieuenctid Cymru'n mynd i fod yn gyfle gwych i bobl ifanc Cymru gael eu llais nhw wedi clywed," meddai Siwan o Landeilo, Sir Gâr.

"Fel rhywun sy'n teimlo'n gryf dros y ffaith ddylen ni gael pleidlais yn 16, hwn yw'r dechreuad perffaith i gael gwleidyddion Cymru a phellach i wrando arnom ni, a sylweddoli bod gan bobl ifanc weledigaethau a barn eu hunain ar wleidyddiaeth a'r materion sy'n bwysig iddyn nhw."

Ychwanegodd Christian, o Gaerdydd, ei bod hi'n "hollbwysig" fod senedd o'r fath yn cael ei sefydlu yng Nghymru.

"Cymru yw un o'r unig wledydd yn Ewrop sydd ddim efo senedd ieuenctid. Mae hynny'n beryglus ac mae llais pobl ifanc yn cael ei golli, felly mae hwn yn gyfle euraid," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Elin Jones y byddai senedd ieuenctid "yn rhoi llais iddynt ar lefel genedlaethol"

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn i bobl ifanc feddwl am enw i'r senedd ieuenctid, yn ogystal â'i nod, pwy fydd yr aelodau, a beth fydd ei rôl a'i gwerthoedd.

Fel rhan o'r paratoadau mae'r Cynulliad bellach yn gweithio gyda grŵp llywio o amryw o gyrff a sefydliadau ar draws Cymru gan gynnwys y Comisiynydd Plant, Youth Cymru, yr Urdd, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a mudiad y Ffermwyr Ifanc.

"Bydd plant a phobl ifanc yn ein hysbrydoli ni i gyd i feddwl yn wahanol am ddyfodol ein cenedl. Maen nhw'n aml yn meddwl am syniadau gwreiddiol ac yn cynnig safbwyntiau gwerthfawr ar faterion cymhleth," meddai Elin Jones.

"Mae'n rhaid i ni roi cymorth iddynt drafod y materion sy'n bwysig iddyn nhw, dod o hyd i ffyrdd y gallant ddylanwadu, ac yn bwysicach oll, mae'n rhaid i ni wrando."