Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
C么r Merched Sir G芒r yn ennill cystadleuaeth C么r Cymru
C么r Merched Sir G芒r yw C么r Cymru 2017 wedi iddynt drechu pedwar c么r arall yn y rownd derfynol nos Sul.
Wedi wythnosau o gystadlu brwd roedd pump c么r wedi cyrraedd y rownd derfynol - C么r Ieuenctid M么n yng nghategori'r plant; C么r Merched Sir G芒r yng nghategori y corau ieuenctid; C么r Meibion Machynlleth yng nghategori y corau meibion; Ysgol Gerdd Ceredigion yng nghategori y corau merched a C么rdydd, enillydd categori y corau cymysg.
Cafodd y gystadleuaeth, sy'n digwydd bob dwy flynedd, ei chynnal nos Sul yn Aberystwyth.
Yn 么l y beirniaid Christopher Tin, y cyfansoddwr ac enillydd dwy Grammy, Mar铆a Guinand o Fenweswela a'r Athro Edward Higginbottom o Brifysgol Rhydychen, roedd y safon eleni yn hynod o uchel.
Roedd gan bob c么r ei rhaglen gerddorol unigol ar gyfer y gystadleuaeth, ond eleni am y tro cyntaf bu'r corau yn cyd-ganu c芒n o waith un o feirniaid y gystadleuaeth sef Christopher Tin o Galiffornia: 'Adain C芒n'.
Cafodd y geiriau eu hysgrifennu yn Gymraeg, Sbaeneg, Almaeneg a Saesneg, gan y Prifardd Mererid Hopwood.
Roedd pob c么r wedi dewis darnau hynod o amrywiol a rhyngwladol.
C么r Merched Sir G芒r oedd y cyntaf i ganu a'u dewis o ddarnau yn y rownd derfynol oedd 'Waltz' - Novello, 'Il est bel et bon' gan Pierre Passereau, 'Turot eszik a cigany' gan y cyfansoddwr Hwngaraidd Kodaly, 'Beth yw'r haf i mi?' a medli o ganeuon gospel.
Dewis C么r Meibion Machynlleth oedd 'Heriwn, wynebwn y wawr' gan Gareth Glyn, 'Beati mortui' - Mendelssohn, 'Joshua' a 'Gwinllan a roddwyd' (trefniant Caradog Williams).
Roedd C么r Ieuenctid M么n yn cystadlu am y pumed tro a'u dewis y tro hwn oedd 'In Paradisum' - Faur茅, 'C芒n Crwtyn y Gwartheg', 'The Lamb' - John Tavener a 'Rhosyn yr I么r' (Gareth Glyn, y geiriau gan Si芒n Owen).
C么rdydd oedd y pedwerydd c么r i ymaddangos ar lwyfan y Neuadd Fawr a'u dewis nhw oedd 'Benedicamus Domino' - Peter Warlock, 'Heilig' - Mendelssohn, Alleluia - Jake Runestad, 'Gwrando 'ngweddi, O Dduw' - Purcell a 'Don't let the sun go down on me' (trefniant o g芒n Elton John).
C么r Ysgol Gerdd Ceredigion oedd y c么r olaf i ymddangos - a hwn oedd yr ail g么r i Islwyn Evans arwain ar y llwyfan gan mai ef hefyd oedd yn arwain C么r Merched Sir G芒r.
Fe ddewison nhw hefyd ddarn gan Gareth Glyn sef 'Henffych Datws' (y geiriau gan Gwyn Thomas). Y tri darn arall oedd 'Ave Maria' - Franz Biebl, 'Ukuthula' o Dde Affrica a 'Pseudo Yoik Lite' gan Jaakko M盲ntyj盲rvi o'r Ffindir.
Roedd 'na wobr yn ogystal i'r arweinydd gorau ac fe aeth y wobr honno i Eilir Owen Griffiths, arweinydd CF1 a fu'n cystadlu yng nghategori y corau cymysg.
Dewis y gwylwyr
Roedd gan y gynulleidfa hefyd gyfle i bleidleisio am eu hoff g么r a'u dewis eleni oedd C么r Ieuenctid M么n. C么r Meibion Machynlleth oedd yn ail a ffefryn y beirniaid, C么r Merched Sir G芒r, yn drydydd.
Nos Sadwrn fe gipiodd C么r Ysgol Pen Barras o Rhuthun y teitl C么r Cynradd Cymru 2017.
Yn ogystal ag ennill cyfanswm o 拢5,000 bydd enillwyr C么r Cymru eleni yn cael cynnig mynd i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth C么r y Flwyddyn Eurovision 2017.
Dyma'r flwyddyn gyntaf i Eurovision gynnig y math yma o gystadleuaeth a bydd yn cael ei chynnal yn Latfia.
Bydd y noson yn cael ei harwain gan y cyfansoddwr a'r arweinydd corawl byd-enwog Eric Whitacre ac ymysg y beirniaid bydd y cyfansoddwr corawl John Rutter a'r soprano Elina Garanca.
Bydd C么r Merched Sir G芒r yn ymddangos gyda'r goreuon o Awstria, Gwlad Belg, Denmarc, Estonia, Yr Almaen, Hwngari, Slofenia a Latfia.
Dywedodd Hefin Owen, Uwch gynhyrchydd C么r Cymru: "Dyma ddatblygiad pwysig iawn o ran cystadleuaeth C么r Cymru ac mae'n gyfle gwych i'r c么r buddugol a Chymru fedru serennu ar lwyfan Ewropeaidd.
"Mae'n gyfle gwych hefyd i gynulleidfa S4C fwynhau gwledd o ganu gan rai o gorau mwyaf safonol Ewrop."
Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C: "Mae S4C yn hynod o falch o ddarlledu'r gystadleuaeth Eurovision yma ac o'r ffaith y bydd cynrychiolaeth o Gymru yno.
"Mae'n gam naturiol yn esblygiad y gyfres boblogaidd C么r Cymru ac yn gyfle gwych i arddangos ein talentau corawl ar lwyfan Ewropeaidd."
Yn 么l Caryl Parry Jones, a oedd nos Sul yn sedd y sylwebydd: "Mae'r safon drwy gydol y gystadleuaeth wedi bod yn anhygoel o uchel ond roedd heno yn ddyrchafol."