Â鶹ԼÅÄ

Côr Ysgol Pen Barras yn cipio gwobr Côr Cymru Cynradd

  • Cyhoeddwyd
Côr Cynradd CymruFfynhonnell y llun, S4C/Côr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Pen Barras yw enillwyr Côr Cymru Cynradd 2017

Côr Ysgol Pen Barras o Rhuthun gipiodd wobr Côr Cynradd Cymru 2017 wedi gwledd o berfformiadau gan bedair ysgol yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth nos Sadwrn.

Y pedair ysgol oedd yn cystadlu am y teitl oedd Teilo Sant o Landeilo, Ysgol Iau Llangennech ger Llanelli, Llwyncelyn o'r Porth yn y Rhondda yn ogystal â Phen Barras.

Roedd yna ddathlu mawr pan gyhoeddwyd yr enillwyr, gyda chanmoliaeth hefyd i bawb a berfformiodd.

Roedd y gantores Elin Manahan Thomas, fu'n gwrando ar y perfformiadau, yn hael ei chanmoliaeth: "Dwi 'di cael gwledd o amser, ac mae'r safon wedi bod yn hynod o uchel. Yr ymdroddiad y brwdfrydedd a'r egni yn wych oddi wrth bawb."

Ffynhonnell y llun, S4C/Côr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd arwain y plant yn fraint, medd yr arweinydd Sioned Haf Roberts

Ac wrth dderbyn y wobr, roedd arweinydd Côr Ysgol Ben Barras, Sioned Haf Roberts wrth ei bodd: "Dwi wedi mopio'n lan mae'n rhaid dweud, teimlo'n freintiedig iawn fy mod i'n cael arwain y plant yma.

"Dwi'n andros o ddiolchar i'r plant, maen nhw'n frwdfrydig. Dwi'n andros o ddiolchgar i'r rhieni am eu cefnogaeth, ond alla i ddim sefyll fama ar ben fy hun - mae Elin Owen yn haeddu hwn efo fi hefyd. Felly mae hwn i Elin a fi, y plant, y staff a'r rhieni."

A bydd y cystadlu'n parhau yn Aberystwyth nos Sul pan fydd enillwyr y gwahanol gategorïau yn mynd benben a'i gilydd i geisio cipio prif wobr Côr Cymru 2017, gyda'r rhaglen yn dechrau ar S4C am 18:30.