Â鶹ԼÅÄ

Ymchwiliad cyhoeddus i gynlluniau ar gyfer ffordd yr M4

  • Cyhoeddwyd
M4 jam

Bydd ymchwiliad cyhoeddus i'r cynlluniau i adeiladu ffordd newydd yr M4 ger Casnewydd yn agor fore Mawrth.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu ffordd chwe lôn gwerth £1.1bn rhwng Magwyr a Chas-bach i ddelio â'r tagfeydd o gwmpas twneli Brynglas.

Fe fydd yr ymchwiliad annibynnol yn para pum mis ac yn adolygu'r galw am y cynllun ac ystyried y ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Ymysg gwrthwynebwyr y cynllun mae grwpiau amgylcheddol, pobl leol a rhai o'r gwrthbleidiau yn y Senedd.

'Dim yn cyrraedd y safon'

Mae'r llywodraeth yn mynnu bod y prosiect yn hanfodol, gyda thagfeydd ar yr M4 yn atal twf yn yr economi.

Eu gobaith yw dechrau'r gwaith adeiladu yn 2018, ac agor y ffordd yn 2021.

Maen nhw'n dweud mai ffordd osgoi oedd yr M4 presennol i'r gogledd o Gasnewydd yn wreiddiol, ac nad yw'n "cyrraedd safonau traffyrdd modern".

Cynlluniau amgen

Bydd yr ymchwiliad yn ystyried hyd at 13 cynllun amgen.

Mae'r arolygydd wedi derbyn 335 datganiad gwrthwynebiad, o'i gymharu â 192 datganiad o gefnogaeth.

Fe fyddai'r ffordd newydd yn mynd drwy gorstiroedd hynafol Gwent, ac mae ymgyrchwyr yn bwriadu cynnal protest cyn yr ymchwiliad.

Mae sefydliadau gan gynnwys Sustrans Cymru a Ffrindiau'r Ddaear wedi arwyddo llythyr gwrthwybebu ac mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, hefyd wedi datgan ei gwrthwynebiad.