Â鶹ԼÅÄ

Oedi i ymchwiliad M4 yn 'anffodus' medd Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
M4 yng Nghasnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad y prosiect yw lleddfu rhywfaint ar broblemau traffig ardal Casnewydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n gorfod gohirio ymchwiliad cyhoeddus ar welliannau i'r M4 nes y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates bod hynny oherwydd i'r Weinidogaeth Drafnidiaeth yn San Steffan newid y ffordd maen nhw'n mesur newidiadau mewn traffig, a hynny heb ddweud wrth wleidyddion Caerdydd.

Roedd disgwyl i'r ymchwiliad cyhoeddus ddechrau ar 1 Tachwedd, ond fe fydd nawr yn digwydd yn y flwyddyn newydd.

Mae'r Weinidogaeth Drafnidiaeth fodd bynnag wedi ymateb gan ddweud eu bod wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru ar ddechrau'r flwyddyn eu bod yn bwriadu diwygio'u trefniadau.

'Diweddaru amcanion'

Mynnodd Mr Skates y byddai'r prosiect i wella ffordd yr M4 yn ne ddwyrain Cymru yn cael ei gwblhau ar amser erbyn 2021.

"Mae Llywodraeth y DU wedi mynegi awydd i weld gwaith ar brosiect yr M4 yn dechrau cyn gynted â phosib, felly mae'n siomedig iawn bod y Weinidogaeth Drafnidiaeth wedi penderfynu cysylltu â ni ar newidiadau i ragolygu traffig dridiau'n unig cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno," meddai.

"Mae hyn yn anffodus wedi arwain at oedi cyn dechrau'r ymchwiliad cyhoeddus."

Ond mewn ymateb fe wnaeth y Weinidogaeth Drafnidiaeth wadu bod y newyddion wedi bod yn annisgwyl i Lywodraeth Cymru.

"Rydym ni'n parhau i adolygu'n rhagolygon traffig ac fe wnaethon ni e'n glir i swyddogion yng Nghymru ar ddechrau'r flwyddyn hon y bydden ni'n diweddaru'n hamcanion," meddai llefarydd.

"Rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos â Llywodraeth Cymru a'u hannog nhw i gyflawni'r prosiect hwn fydd yn gwella teithiau ar gyfer gyrwyr."

'Dryslyd tu hwnt'

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig bod y newidiadau i system Llywodraeth y DU wedi cael eu cyflwyno dros naw wythnos yn ôl, ac felly bod datganiad diweddaraf Llywodraeth Cymru yn un "dryslyd tu hwnt".

"Mae'r prosiect yma wedi cael ei lesteirio gydag oedi gan Lywodraeth Cymru o'r dechrau a tra y bydd y data yma'n rhan greiddiol o'r ymchwiliad, fe fydd y cyhoedd yn holi pam ei bod hi wedi cymryd cyhyd i gyhoeddi'r gohiriad," meddai'r llefarydd.

Dywedodd Dai Lloyd, llefarydd Plaid Cymru ar isadeiledd, bod yr "oedi diweddaraf wedi digwydd oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng llywodraethau ar ddau ben yr M4" a bod hynny yn "annerbyniol".