Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lle oeddwn i: Huw Chiswell
Mae 'Y Cwm' yn un o ganeuon fwya' eiconig yr iaith Gymraeg. Ond ble'n union oedd Huw Chiswell pan gyfansoddodd y gân a enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1984?
Yn y gyntaf o'r gyfres 'Lle oeddwn i', bu Cymru Fyw yn holi am y stori tu nôl i'r gân:
Yn rhif 2, Andrews Road yn ardal Ystum Taf yng Nghaerdydd o'n i, sef y tÅ· lle 'nes i fyw ynddo gynta' pan symudais i Gaerdydd. R'on i'n 23 oed ac yn gweithio fel ymchwilydd gyda HTV.
R'on i'n rhannu tÅ· gyda Huw Jenkins a dwi'n credu yr o'dd e yn y tÅ· y noson honno. Dim ond newydd ga'l piano yng Nghaerdydd o'n i, baby grand o'dd e ac o'dd e bron yn llenwi'r 'stafell fach!
Dwi'n cofio cyfansoddi'r gân, noson cyn dyddiad cau cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1984. Gwna'th fy nghariad i ar y pryd roi bet i fi na fydden i'n cystadlu!
Y gystadleuaeth oedd y sbardun, felly eisteddes i lawr y noson honno i sgwennu. Wnes i gymryd y gystadleuaeth yn llythrennol, sef cân i Gymru - fel 'na o'n i'n meddwl o'dd hi fod.
'Sgwennes i gân am fy Nghymru i, rhywbeth o'dd yn agos i'm mywyd i. Roedd hi'n gyfnod gwleidyddol hefyd ym maes y glo felly o'dd e'n naturiol i sôn am hwnnw. R'on i ond wedi symud i Gaerdydd ers llai na dwy flynedd, felly o'n i'n teimlo bo fi'n byw rhywle arall i adre am y tro cynta' go iawn.
Mae'r gân yn eitha' sbeshal i fi nawr, mae fel aelod o'r teulu.
Perfformiwyd y gân yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 1984 gan Geraint Griffiths.