Â鶹ԼÅÄ

Chis a'r Band 'nôl ar gyfer y Steddfod

  • Cyhoeddwyd
Huw Chiswell
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Huw Chiswell yn perfformio gyda'r band ar Lwyfan y Maes, nos Wener 5 Awst

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Huw Chiswell a'r Band fydd yn perfformio ar Lwyfan y Maes ar y nos Wener ym Mhrifwyl Sir Fynwy a'r Cyffiniau eleni.

Mae'r slot nos Wener yn cael ei ystyried yn un o uchafbwyntiau'r wythnos erbyn hyn.

Dyma fydd y tro cynta' i Huw Chiswell berfformio gyda band llawn ers tua phum mlynedd.

Dywedodd: "Mae cael cyfle i berfformio gyda band llawn yn eithaf anghyffredin erbyn heddiw, ac rwy'n edrych ymlaen at bawb ddod 'nôl at ei gilydd ar y llwyfan.

"Roedden ni'n credu y byddai'r slot yma ar nos Wener wythnos yr Eisteddfod yn un werth ei chael, ac yn esgus i gael pawb 'nôl at ei gilydd mewn awyrgylch arbennig, gan fod 'na sbel fach ers i ni wneud unrhyw beth ar y cyd.

"Dydyn ni heb benderfynu beth i'w chwarae eto ar y noson, ond mae'n siŵr mai cymysgedd o'r hen ffefrynnau a chaneuon ychydig yn fwy newydd gawn ni ar y noson. Cyfle braf i ddod â ffrindiau ynghyd ac ail-fyw rhai o'r profiadau cynnar!

'Dathliad i goroni'r wythnos'

"Ry'n ni'n edrych ymlaen at yn noson yn barod - mae hon yn slot gyda thipyn o draddodiad erbyn hyn, a gobeithio y bydd nos Wener eleni'n ddathliad i goroni wythnos yr Eisteddfod.

"Gyda'r Eisteddfod yn Y Fenni, gobeithio y bydd nifer fawr o ddysgwyr ar y Maes. Mae nifer o'r caneuon cynnar yn adnabyddus i ddysgwyr gan eu bod nhw'n cael eu defnyddio ar rai o'r cyrsiau, felly rwy'n gobeithio y daw carfan fawr atom i fwynhau noson yn yr Eisteddfod ar ôl clywed rhai o'r caneuon wrth ddysgu Cymraeg."

Yn wreiddiol o Gwm Tawe, roedd Huw Chiswell yn aelod o grwpiau pop fel Y Crach a'r Trwynau Coch, cyn cychwyn perfformio a rhyddhau recordiau fel artist unigol.

Dyma'r noson gyntaf i'r Eisteddfod ei chyhoeddi eleni, a bydd manylion am weddill yr arlwy yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn cael ei chynnal ar Ddolydd y Castell, Y Fenni,rhwng 29 Gorffennaf a 6 Awst.