Â鶹ԼÅÄ

Cynhyrchydd Superted yn beirniadu Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mike Young

Mae'r cynhyrchydd oedd yn gyfrifol am Superted a Sam Tân wedi beirniadu "biwrocratiaid" Llywodraeth Cymru sy'n goruchwylio'r sector ffilm a theledu.

Mae Mike Young, sydd nawr yn gynhyrchydd ffilmiau Hollywood, yn dweud ei fod wedi'i orfodi i wneud ei ffilm nesaf tu allan i Gymru oherwydd diffyg cefnogaeth yma.

Mae ffilm nesaf Mr Young yn canolbwyntio ar fywyd lliwgar cyn-chwaraewr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Robin Friday.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod gan Gymru "enw da rhyngwladol ar gyfer cynnyrch teledu a ffilm" a bod hyn yn arwydd bod y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau yn dod a "chanlyniadau go iawn".

'Gwrthod y cyfle'

Fe wnaeth y cynhyrchydd gais am gymorth gan gronfa Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiannau creadigol. Ond mae'n dweud iddo gael ei "synnu" gan y ffordd mae'r diwydiant ffilm yng Nghymru wedi'i drefnu.

Dywedodd wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Mi ydyn ni wedi llwyddo i ddenu llawer o arian i gynhyrchu'r ffilm a denu rhai sêr mawr i fod ynddo fe.

"Es i drwy'r broses [o wneud cais am gyllid] gyda Llywodraeth Cymru ac fe wnaethon nhw wrthod y cyfle. Felly mae'n edrych fel bydd rhaid saethu'r ffilm yn Lloegr neu Iwerddon yn ddiweddarach yn yr haf."

Mae Mr Young wedi cael gyrfa lwyddiannus yn y byd animeiddio a ffilm ers lansio Superted ar S4C yn 1982.

Roedd e hefyd yn gyfrifol am ddatblygu Sam Tân a Wil Cwac Cwac, cyn symud i Los Angeles i weithio ar gartwns a ffilmiau eraill.

Cafodd ei ffilm ddiweddaraf, Norm of the North, ei dangos am y tro cyntaf ym Mrynmawr ar ddydd Mawrth.

Mae Mr Young yn teimlo y dylai arian cyhoeddus i gefnogi'r diwydiannau creadigol gael ei fuddsoddi mewn prosiectau masnachol ac mae'n feirniadol o'r "biwrocratiaid" sydd yn gwneud penderfyniadau am ariannu ffilmiau newydd.

Mae'n dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cyngor gan "bobl sydd wir yn gwybod sut i greu ffilmiau a sut i farchnata a gwerthu nhw, yn hytrach na biwrocratiaid".

Wrth drafod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn cynyrchiadau ffilm a theledu, meddai: "Y teimlad oedd gen i oedd bod yna berthynas anesmwyth iawn rhwng y gwleidyddion a'r bobl sy'n cael eu penodi o'r diwydiant i fonitro'r peth."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ffilm ddiweddaraf Mike Young ei dangos ym Mrynmawr

Ond mae'n cyfaddef falle bod y ffaith nad oedd ei gais am arian yn llwyddiannus wedi dylanwadu ar ei farn.

Er hynny mae'n dweud bod angen i bolisi'r llywodraeth tuag at y diwydiannu creadigol "fod yn fasnachol".

"Rwy'n gyfarwyddwr masnachol iawn, ac os yw'r diwydiant yn mynd i weithio yng Nghymru mae'n rhaid iddi fod yn fasnachol iawn," meddai.

"Gallwch chi gynhyrchu bob math o ffilmiau esoterig... ond ar yr un pryd, os yw'r diwydiant yn mynd i sefyll ar ei ben ei hun mae angen iddi fod yn fasnachol."

Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae Panel Buddsoddi'r Cyfryngau yn cynnwys arbenigwyr annibynnol o'r diwydiant sydd yn darparu cyngor ynglŷn â'n buddsoddiadau masnachol.

"Mae unrhyw fuddsoddiad sydd yn cael ei ystyried yn gorfod canolbwyntio ar gael y defnydd gorau o arian cyhoeddus ac ar gryfhau'r economi."

Maen nhw'n dweud bod hi yn iawn ei bod nhw'n gofyn am y meini prawf yma neu y bydden nhw yn haeddiannol yn cael ei beirniadu.