Â鶹ԼÅÄ

'Trafodaethau' i ddod a Superted yn ôl yn y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
superted

Fe all y gyfres eiconig gartŵn i blant, Superted, ddychwelyd yn ôl i'r sgrin yn Gymraeg wedi blynyddoedd o absenoldeb.

Mae S4C wedi bod yn rhan o "drafodaethau" ynghylch dangos anturiaethau'r tedi anghyffredin unwaith eto ar y sianel.

Daw'r newydd wedi'r cyhoeddiad gan grëwr y gyfres, y Cymro, Mike Young, bod cynlluniau ar y gweill am gyfres newydd o Superted yn y Saesneg cyn diwedd y flwyddyn.

Cafodd y gyfres ei darlledu'n gyntaf yn Gymraeg ar S4C yn yr 1980au cyn cael ei darlledu yn y Saesneg ar sianeli'r Â鶹ԼÅÄ.

"Mae Superted yn gyfres eiconig, ac yn bwysig i hanes darlledu Cymraeg fel y rhaglen gyntaf i gael ei dangos ar S4C yn 1982," meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C.

"'Da ni wedi bod yn rhan o drafodaethau i ddod a Superted yn ôl yn y Gymraeg ac yn falch o weld y prosiect yn symud yn ei flaen."