Trin geiriau

Yn 1995 fe gyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru y geiriadur Saesneg i Gymraeg mwyaf cynhwysfawr erioed.

Wedi ugain mlynedd o waith ymchwil, dros 1,750 o dudalennau, a degau o filoedd o gyfieithiadau, mae wedi ennill ei blwyf fel un o gyfrolau mwyaf arloesol y Gymraeg.

Dr Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones, academwyr o Brifysgol Bangor, fu'n llafurio am flynyddoedd er mwyn cyhoeddi rhywbeth sydd bellach yn cael ei weld fel rhyw fath o drysor cenedlaethol.

"Da iawn wir os yw'n cael ei weld felly!" meddai Dafydd Glyn Jones. "Mi hoffwn i feddwl - ac mi gredaf fod rhyw sail i feddwl - iddo fod yn fodd i argyhoeddi pobl ei bod yn bosib dweud yn Gymraeg unrhyw beth y gellir ei ddweud yn Saesneg.

"Mae yna ambell un yn dweud o hyd 'does yna ddim gair Cymraeg am y peth-a'r-peth'. Ystyr hynny fel rheol yw 'dydw i ddim yn gwybod neu ddim yn cofio'r gair', a'r fantais o fod y Geiriadur yn llyfr mor fawr a thrwm yw y gellir ei ddefnyddio i golbio'r dyn hwnnw ar ei ben!"

"Roedd hi'n drybeilig o ran geiriaduron cyffredinol Cymraeg ar y pryd," meddai Dr Griffiths. "Does yna ddim byd yn cymharu efo Geiriadur yr Academi ers y ddeunawfed ganrif fyswn i'n ddeud."

Creu swyddi newydd

Ond gyda gwerthiant y copïau caled ar ei lawr, roedd yn rhaid symud gyda'r oes fodern. Ac felly, yn 2012, fe gyhoeddwyd fod y Geiriadur ar gael yn ddigidol - ac am ddim.

"I ni'r golygyddion, pwysigrwydd - neu anfantais - mynd yn electronig oedd fod cryn dipyn yn llai o gopïau print yn cael eu gwerthu," meddai Dafydd Glyn Jones.

"Fe gawsom ni ddau swm o arian gan Fwrdd yr Iaith, fel yr oedd bryd hynny, am ganiatâd i'w droi'n electronig, ond dylem fod wedi cael, neu wedi mynnu, llawer iawn mwy. Drwy roi caniatâd fe wnaethom yn bosibl swyddi gwerth cannoedd o filoedd o bunnau yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, llawer iawn mwy nag a gawsom ni erioed."

Ac fel mae'r oes ddigidol yn newid, felly hefyd mae agweddau pobl tuag at rai geiriau sydd bellach, o bosib, yn cael eu gweld yn annerbyniol. Ydy'r awduron yn difaru, er enghraifft, defnyddio'r gair 'gwrywgydiwr' am 'homosexual'?

"Wrth gyfieithu gair neu ymadrodd ddyle' ni byth ofyn - a hyd y cofiaf wnaethom ni erioed ofyn - 'pwy mae hwn yn mynd i'w dramgwyddo?'," meddai Dafydd Glyn Jones. "Os dyna'r gair, dyna fo. Ieithyddol a gramadegol yw'r criteria bob amser."

"Dydw i ddim yn derbyn y lol cywirdeb gwleidyddol yma. Rhagrith ydi o - ddim isio disgrifio petha fel y maen nhw, a smalio bod nhw'n betha neis, neis," meddai Dr Griffiths.

Mae'r Oxford English Dictionary yn cael ei ddiweddaru yn weddol gyson, gyda'r geiriau "emoji" a "bants" ymysg y diweddaraf. Oes lle i ddiweddaru'r Geiriadur felly, wrth i dermau newydd gael ei bathu ar wefannau cymdeithasol, y gair Cymraeg am 'selfie', er enghraifft?

"'Hunlun' yn sicr. Os cofiaf yn iawn, dyw 'e-bost' ddim yn yr argraffiad gwreiddiol. Mae mater y diweddaru yn fater mawr," meddai Dafydd Glyn Jones.

"Hyd yma, y cyfan y gallwyd ei wneud yw cynnwys atodiadau yn y cefn gydag ychwanegiadau a chywiriadau. Ein dymuniad ni fel golygyddion fyddai rhoi'r rhain i gyd i mewn yn eu lleoedd priodol, yn nhrefn yr wyddor, ond am wahanol resymau methai'r cyhoeddwyr a'r argraffwyr wneud hyn. [Mae'n] anfoddhaol iawn.

"Dylai'r diweddaru ddigwydd drwy'r adeg, gydag argraffiadau newydd 'go-iawn' yn ymddangos bob hyn a hyn. Ond mae'r Academi Gymreig wedi hen golli diddordeb mewn gwaith geiriadurol, ac mae gan Wasg Prifysgol Cymru ei phroblemau ei hun."

"Y tro diwetha' i'r Wasg [Prifysgol Cymru] gynnwys unrhyw ychwanegiadau ar brint oedd ar y pumed argraffiad - mae hynny tua 10 mlynedd yn ôl," meddai Dr Griffiths. "Doeddan nhw ddim yn awyddus o'r cychwyn i wneud y Geiriadur yn fwy nag y mae o.

"Dwi'n gweld hi'n drueni fod dim modd ychwanegu ato gan fod yna lith o bethau newydd yn codi yn Saesneg. Ac felly yn ara' deg, mae arna i ofn, mae o'n dyddio ac yn mynd yn fwy hen ffasiwn."

Efallai byddai rhai yn cyfeirio at y Geiriadur fel "Geiriadur Bruce" - ond sut mae hyn yn eistedd efo'r dyn ei hun?

"Mae o'n embaras i fi achos mae'n golygu anwybyddu y gwaith aruthrol wnaeth Dafydd Glyn Jones," meddai Dr Griffiths. "Mi fydda'n well gen i bobl gyfeirio ato wrth ei deitl cywir er bod hynny'n dipyn o embaras hefyd am fod yr Academi yn arddel dim ar y Geiriadur."

Diffyg parch

"Mae pawb yn ein defnyddio ni, ond does 'na neb yn ein parchu ni," ychwanegodd Dr Griffiths. "Does yna ddim parch nag anrhydeddau academaidd o fath yn y byd wedi'u cynnig i fi, Dafydd Glyn Jones na neb arall weithiodd ar y Geiriadur.

"Os ydych chi'n seleb bumed radd ar y teledu yn Lloegr fe gewch chi gymrodoriaeth ym Mhrifysgol Bangor neu radd anrhydeddus. Bod yn bwysig yn Lloegr ydi'r peth pwysig, neu bod yn ariannog iawn, ac yn barod iawn i roi arian mawr i'r colegau.

"Mae'n dangos be' mae academwyr Cymru yn ei feddwl o eiriadurwyr a pobl eraill sy' wedi cyfrannu i'r Gymraeg."

Mae'n edrych yn anhebygol y bydd argraffiad newydd o'r Geiriadur arloesol yma yn ymddangos ar brint eto. Ond hyd yn oed petai hynny'n digwydd, mae'n ddigon posib na fyddai'r awduron yn rhoi eu hunain drwy'r fath waith eto.

"Dwi ddim yn gweld neb yn codi o'r genhedlaeth iau ymysg academwyr Cymru sy'n barod i aberthu 10 neu 20 mlynedd o'u hoes ac o'u gyrfa i wneud gwaith fel hyn," ychwanegodd Dr Griffiths. "Mi fysa hi wedi talu yn well i mi - o ran parch a phopeth arall - os fyswn i wedi glynu at fy mhriod faes, Ffrangeg.

"Does gen i ddim cymwysterau yn y Gymraeg o gwbl ac mi ddylai hyn fod wedi bod yn waith i rywun arall. Ond fi a Dafydd Glyn Jones oedd yr unig rai oedd yn ddigon ffôl, i ddeud y gwir, i ymgymryd â'r gwaith."

Disgrifiad o'r llun, Ydy'r ddynes yma'n cymryd "hunlun" gyda "ffon hunlun"?