Â鶹ԼÅÄ

'Dim parch' i awduron Geiriadur

  • Cyhoeddwyd
prifysgol bruce
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Geiriadur yr Academi ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1995

Mae awdur un o lyfrau academaidd mwyaf dylanwadol y Gymraeg wedi honni nad oes digon o barch wedi cael ei roi iddo na'i gyd-olygydd.

Dywedodd Dr Bruce Griffiths, un o awduron Geiriadur yr Academi, nad oedd o na Dafydd Glyn Jones wedi derbyn unrhyw "barch nag anrhydeddau academaidd o fath yn y byd" ers cyhoeddi'r gyfrol.

Roedd Dr Griffiths a Mr Jones yn siarad gydag ers cyhoeddi'r Geiriadur, a gymrodd dros 20 mlynedd i'w baratoi.

Mae hefyd yn sôn am ei "embaras" o glywed pobl yn cyfeirio at y llyfr fel 'Geiriadur Bruce', ac yn wfftio awgrymiadau fod rhai geiriau yn y Geiriadur bellach yn gallu achosi loes i bobl.

Ugain mlynedd o aberth

Does yna ddim parch nag anrhydeddau academaidd o fath yn y byd wedi'u cynnig i fi, Dafydd Glyn Jones na neb arall..."

Dr Bruce Griffiths

"Mae pawb yn ein defnyddio ni, ond does 'na neb yn ein parchu ni," meddai Dr Griffiths, o drafod awduron geiriaduron yn gyffredinol.

"Does yna ddim parch nag anrhydeddau academaidd o fath yn y byd wedi'u cynnig i fi, Dafydd Glyn Jones na neb arall weithiodd ar y Geiriadur.

"Os ydych chi'n seleb bumed radd ar y teledu yn Lloegr fe gewch chi gymrodoriaeth ym Mhrifysgol Bangor neu radd anrhydeddus. Bod yn bwysig yn Lloegr ydi'r peth pwysig, neu bod yn ariannog iawn, ac yn barod iawn i roi arian mawr i'r colegau."

Yn 2012, daeth ar ôl cwymp yng ngwerthiant y copïau caled.

"Fe gawsom ni ddau swm o arian gan Fwrdd yr Iaith, fel yr oedd bryd hynny, am ganiatâd i'w droi'n electronig, ond dylem fod wedi cael, neu wedi mynnu, llawer iawn mwy," dywedodd Dafydd Glyn Jones.

"Drwy roi caniatâd fe wnaethom yn bosibl swyddi gwerth cannoedd o filoedd o bunnau yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, llawer iawn mwy nag a gawsom ni erioed."

Dywedodd Dr Griffiths nad oedd yn teimlo fod unrhyw un o'i gyfoedion yn fodlon gwneud yr un aberth ag y gwnaeth o a Dafydd Glyn Jones.

"Dwi ddim yn gweld neb yn codi o'r genhedlaeth iau ymysg academwyr Cymru sy'n barod i aberthu 10 neu 20 mlynedd o'u hoes ac o'u gyrfa i wneud gwaith fel hyn," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor wrth Cymru Fyw mai swm o £3,000 y mae'r Brifysgol yn ei dderbyn yn flynyddol i gynnal a lletya'r Geiriadur ac mai "cyfran fechan o'r arian hwnnw sy'n mynd at gyflogau".