Ateb y Galw: Huw Chiswell

Y canwr Huw Chiswell sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan John Pierce Jones yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae 'da fi rith o fod yn y car gyda 'nhad ar ei ffordd i'r ysbyty ar gyfer fy ngenedigaeth fy hun, ond fel arall fy nhadcu yn erbyn yr haul yn fy nhywys yn y pram.

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn ieuengach?

Tra'n teithio yn y car gyda fy rhieni trwy Bontardawe dyma rhywun yn chwifio a'r car yn tynnu fewn. Daeth merch at y ffenest flaen a phlygu i siarad 'da mam. Roedd hi'n gwisgo sodlau a sgert mini fer iawn yn ôl ffasiwn y 60au.

Roedd rhywbeth egsotig am ei natur hi. Dyna'r cof cyntaf sydd gen i o syweddoli pŵer greddfol merch dros fachgen (daeth y sylweddoliad am yr agwedd ymenyddol yn hwyrach.) Mary Hopkin oedd y ferch honno.

Disgrifiad o'r llun, Mae'n rhaid bod Pontardawe yn le da i fagu cantorion

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae rhai 'di dweud nad oes gen i gywilydd o gwbl! Hoffwn feddwl fod cydwybod yn fater arall.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Angladd Wncwl Wil yn '97.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

'Di rhoi'r gore i smygu ers blynyddoedd ond mae ambell arfer arall yn aros am y tro!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ar wahân i gartre, ar hyn o bryd Bannau Brycheiniog, yn enwedig ar ddiwrnod clir o aeaf.

Disgrifiad o'r llun, Pen Y Fan ym Mannau Brycheiniog

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae dwy noson - nosweithiau genedigaeth fy nwy ferch, yn enwedig o sylweddoli eu bod nhw'n iach ac yn llon.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

O diar mi.

Beth yw dy hoff lyfr?

Amhosib! Ond dwi wedi ail ddarllen dau lyfr hynod yn ddiweddar -'To Kill a Mocking Bird' Harper Lee a 'Un Nos Ola Leuad' Caradog Prichard.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Dwi'n hoff iawn o hen fwcwl gwregys sydd gen i. Dwi 'di gorfod newid y lledr unwaith neu ddwy ond erys y bwcwl, sef un oedd yn eiddo i dadcu. Coflaid am fy nghanol yn dwyn cof amdano ers blynydde mawr.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Y ddrama gerdd 'Into The Woods' gyda'r plant.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actores fyddai'n chwarae dy ran di?

Charlotte Gainsbourg.

Dy hoff albwm?

Gan taw 'Ateb y Galw' ydyn ni - 'Marching Songs of the Free Wales Army' gan Cayo Evans.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Cwrs cyntaf sy'n gosod y safon ac yn cyrraedd pan fo angen bwyd fwyaf felly dyna'r ffefryn. Yn benodol, unrhyw fwyd môr - gyda gwin gwyn da wrth reswm.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Pwy bynnag fydd dyfarnwr gêm Cymru yn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Robin Llywelyn