Â鶹ԼÅÄ

Tawel Fan: Camau disgyblu

  • Cyhoeddwyd
Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae uwch reolwyr wedi cael eu beirniadu am beidio ag ymateb i rybuddion cynharach o broblemau ar ward Tawel Fan

Fe fydd camau disgyblu yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai sydd yn gyfrifol am sgandal Tawel Fan, meddai'r Prif Weinidog Carwyn Jones ddydd Mawrth.

Gwnaeth Mr Jones ei sylwadau yn y Senedd, wrth iddi ddod yn amlwg fod datganiad gan y Gweinidog Iechyd wedi cael ei dynnu'n ôl.

Yn lle cyhoeddi datganiad, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi cais gan y Ceidwadwyr i gynnal dadl am broblemau ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd. Bydd y ddadl yn cael ei chynnal yfory.

Dywedodd ffynhonell o Lywodraeth Cymru fod y penderfyniad wedi cael ei wneud "tra'n cydnabod yn llawn cryfder y teimladau ar draws y Siambr ar y pwnc".

Wythnos diwethaf fe wnaeth adroddiad annibynnol ddisgrifio nifer o honiadau, oedd wedi eu profi, fel achosion o "gamdriniaeth sefydliadol".

Yn ystod cwestiynnau, disgrifiodd y Prif Weinidog ddarganfyddiadau'r adroddiad fel rhai "dychrynllyd" a "gwarthus", ac fe ddywedodd fod ymchwiliadau gwirio di-rybudd oedd wedi eu cyflwyno yn ddiweddar wedi tawelu ei feddwl.

Dywedodd: "Mae canlyniadau'r ymchwiliadau di-rybudd hyn yn dangos er bod rhai materion gyda rhai o'r unedau hyn, fe allwn gael rhywfaint o dawelwch meddwl nad oed dim byd o'r fath yn digwydd mewn unedau iechyd meddwl ar draws gweddill Cymru."

Teuluoedd

Fe amlinellodd hefyd beth y gallai teuluoedd y rhai oedd wedi eu heffeithio gan ddigwyddiadau yn yr uned yn gallu ei ddisgwyl gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ychwanegodd: "Fe fydd y bwrdd iechyd lleol yn cymryd camau disgyblu yn erbyn y rhai sydd yn gyfrifol.

"Tydi o ddim yn ddigon da i ddweud fod gwersi wedi eu dysgu a does neb yn gyfrifol o fewn y bwrdd iechyd lleol.

"Tydw i ddim yn credu fod hyn yn sefyllfa gredadwy i'r bwrdd iechyd fod ynddo a tydw i ddim am funud yn credu y bydd y teuluoedd yn derbyn hyn."

Fe wrthododd alwadau am ymchwiliad cyhoeddus, gan ddweud y byddai'n cymryd dwy flynedd i'w gwblhau.

Fe feirniadodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies Mr Jones am gymryd pum niwrnod i ymateb i'r adroddiad, gan ddweud: "Chi yw Prif Weinidog Cymru, mae'r cyfrifoldeb yn stopio gyda chi."

Dywedodd Mr Jones ei bod yn fwy addas i leisio barn yn siambr y Senedd yn hytrach nag "ar Twitter".