Â鶹ԼÅÄ

Tawel Fan: Aros am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd

  • Cyhoeddwyd
Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae uwch reolwyr wedi cael eu beirniadu am beidio ag ymateb i rybuddion cynharach o broblemau ar y ward

Bydd y gweinidog iechyd yn gwneud datganiad ddydd Mawrth mewn ymateb i adroddiad damniol am y gofal mewn uned iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Mae teuluoedd cleifion sydd wedi derbyn triniaeth ar ward Tawel Fan wedi dweud fod eu perthnasau wedi cael eu trin "fel anifeiliaid mewn sŵ".

Mae'r pwysau yn cynyddu ar Mark Drakeford i gynnal ymchwiliad llawn, ac i gymryd camau yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro am y driniaeth "anfaddeuol ac annerbyniol".

Mae'r honiadau, sydd wedi eu trafod yn yr adroddiad ysgrifenedig gan yr arbenigwr iechyd Donna Ockenden, yn dweud eu bod yn gyfystyr â "cham-drin sefydliadol".

Dywedodd un teulu eu bod wedi dod o hyd i berthynas yn y gwely mewn pwll o hen wrin.

Mae Donna Ockenden hefyd wedi beirniadu'r diffyg gweithredu ar ran yr uwch dîm reoli, pan gafodd y problemau eu hamlygu mewn adroddiadau blaenorol.

'Atebolrwydd Go Iawn'

Dywedodd prif weithredwr Betsi Cadwaladr, yr Athro Trevor Purt, fod y bwrdd yn "hynod flin" fod cleifion wedi eu "gadael yn agored i niwed" a'u bod wedi gadael eu teuluoedd i lawr.

Mae wyth aelod o staff nyrsio wedi cael eu gwahardd o'u gwaith ar dâl llawn ac mae nifer "sylweddol" o staff wedi cael eu trosglwyddo i rolau eraill.

Mae eraill, gan gynnwys rheolwyr, wedi gadael eu swyddi.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi galw ar Mr Drakeford i "ddangos rhywfaint o arweinyddiaeth", gan ddweud fod y teuluoedd dan sylw angen gweld "atebolrwydd go iawn".

Mae ACau Ceidwadol wedi galw am ymchwiliad llawn a dadl "lawn ac agored" yn y cynulliad i drafod y mater.

Yn ôl Plaid Cymru, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r sefyllfa cyn gynted â phosib.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn, ei bod hi'n "rhy gynnar" i ddweud pa gamau sy'n briodol i'w cymryd yn dilyn yr adroddiad "brawychus" sydd wedi "peri gofid" i nifer o bobl.

Ategodd mai cyfrifoldeb Mr Drakeford oedd darganfod atebion er mwyn tawelu'r ofnau hynny.

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn cael cyfle i drafod ar ôl i'r Gweinidog Iechyd roi ei ddatganiad yn y Senedd ddydd Mawrth.