Ateb y Galw: Ross Harries

Cyflwynydd y sioe rygbi Scrum V sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan cyn-gapten Cymru, Martyn Williams.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gweld Cymru yn ennill y Gamp Lawn yn 1978 gyda fy nhad pan oeddwn yn flwydd oed. Roedd rhaid i mi aros am amser hir am yr un nesaf!

Disgrifiad o'r llun, 27 mlynedd yn ddiweddarach cafodd Ross weld Camp Lawn arall

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Agos iawn rhwng Cindy Crawford a Kylie Minogue.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Disgyn mewn i afon yng Ngwlad Thai pan oeddwn yn edmygu yr olygfa yno. Roeddwn yn meddwl fod neb 'di sylwi pan oeddwn yn dringo nôl i'r lan rhyw 100 medr lawr yr afon. Ond yna fe welais criw o ferched ysgol Thai yn chwerthin yn afreolus!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Efallai daeth deigryn pan cafodd fy merch ei geni Hydref diwethaf. Alla' i ddim cadarnhau na gwadu y peth!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gohirio pethau. Sy'n esbonio pam fy mod yn hwyr yn ateb y cwestiynnau yma!

Dy hoff ddinas yn y byd?

Nath rhywun ofyn hyn i mi 'chydig ddyddia' nôl ac o' ni'n ei ffeindio'n anodd! Mae Sydney a Melbourne ymysg y ffefrynnau - os fyddai'n bosib cyfuno golygfeydd Sydney gyda bywyd nos Melbourne bydde hi'n dipyn o ddinas. Mae'r gwaith pensaernïaeth yn Rhufain a Buenos Aires yn arbennig, a gan fod fy Sbaeneg dipyn gwell na fy Eidaleg a'i am brif ddinas Yr Ariannin.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Gall atgofion o rhain fod 'chydig yn niwlog am resymau amlwg, ond roedd cyfarfod un o fy arwyr, Taj Mahal, yn y Byron Bay Blues and Roots Festival yn eitha arbennig.

Disgrifiad o'r llun, Y cerddor Taj Mahal, sy'n dipyn o arwr i Ross

Oes gen ti datŵ?

Na. Yr unig amser gefais fy nhemptio o gwbl oedd pan oeddwn ym Moroedd y De Iwerydd a gweld rhai o'r bois yna efo gwaith inc patrymau Māori. Ond bydde hynny'n edrych yn ofnadwy arna i!

Beth yw dy hoff lyfr?

Hwn yn un anodd. Dwi newydd ddod nôl o Gŵyl y Gelli lle wnes i gwrdd â Jay Griffiths, yr awdur a ysgrifennodd 'Wild', sy'n gwbl hudolus. Mae hwnna ymysg y goreuon.

Mae 'Ground Beneath Her Feet' gan Salman Rushdie yn un arall, ac 'One Hundred Years of Solitude' gan Gabriel Garcia Marquez.

Anaml iawn y byddaf yn darllen llyfr mwy nac unwaith, ond rwyf wedi darllen 'Catch 22' gan Joseph Heller dair gwaith erbyn hyn, felly mae'n rhaid mai honna yw fy ffefryn. Campwaith doniol a chlyfar.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy nghot ledr. Mae wedi'w gwisgo bellach ac yn denau iawn, mae fel ail groen i mi.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Nebraska - ffilm hyfryd ddu a gwyn sy'n serenu Bruce Dern.

Disgrifiad o'r llun, Golygfa o 'Nebraska', a gafodd 6 enwebiad yng Ngwobrau'r Oscars 2014

Dy hoff albwm?

Mae hwn yn anodd iawn achos mae gen i lawer, ac mae'n newid o wythnos i wythnos. Roedd marwolaeth diweddar BB King wedi gwneud i mi wrando arno ef, ac mae 'Live at the Regal' wedi cael ei chwarae llawer gwaith yr wythnos yma. Mae'n siŵr mai dyna yw fy hoff albwm byw.

Ond mae'n debyg mai 'Exile on Main Street' gan y Rolling Stones yw fy ffefryn. Clasur blues a rock'n' roll.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?

Hmmm. Oes rhaid i rhain gydfynd â'i gilydd neu a'i pigo fy ffefrynnau dwi? Mae'n debyg byddwn yn mynd am fishcakes Gwlad Thai a saws chili melys, cyri gwyrdd poeth fel prif gwrs a cheesecake siocled i orffen.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Siaradwch â fi wyneb yn wyneb! Dwi'n poeni am y dechnoleg ddi-ddiwedd 'ma. Rhowch brofiadau go iawn i mi unrhyw ddydd. Bydde well gen i lyfr cyn Kindle, record cyn lawrlwythiad mp3 a sgwrs go iawn cyn neges decst.

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Jimi Hendrix (pan oedd yn fyw). Bydde'n wych bod mor aruthrol o dalentog hyd yn oed am ddiwrnod.

Disgrifiad o'r llun, Yr anhygoel Jimi Hendrix, fu farw yn 1970

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Tomos Dafydd, cyflwynydd Wales Today