Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Martyn Williams

  • Cyhoeddwyd
Martyn Williams

Yr wythnos yma, cyn-gapten Cymru Martyn Williams sy'n Ateb y Galw, wedi iddo gael ei enwebu .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy mam a fy modryb yn fy rhoi i ar gefn labrador y teulu ac actio mynd â fi am dro ar ei gefn.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Hawdd... Demi Moore! Bydd dynion fy oed i'n deall pam...

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan ydych chi'n chwarae'n broffesiynol, rydych chi o dan y chwyddwydr, ac os 'dych chi'n gwneud camgymeriad, bydd pawb yn gweld.

Mae'n siŵr mai f'un i oedd methu cic o flaen y pyst yn erbyn Caerlŷr yn rownd gyn-derfynol Cwpan Heiniken 2009... ac i feddwl fy mod i'n ffansio fy hun yn dipyn o giciwr…

Disgrifiad o’r llun,

Y gic hunllefus yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn CaerlÅ·r, 2009

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi ddim yn berson emosiynol felly mae'n siŵr y tro diwethaf i mi dorri winwns...

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi ddim yn meddwl ond pan oeddwn i'n arfer chwarae roeddwn i'n arfer rwbio fy mhen a fy ngwallt llawer... mae'n siŵr mai dyna pam does bron dim ar ôl heddiw!

Dy hoff ddinas yn y byd?

Hwn yn un anodd gan fy mod wrth fy modd yn teithio a does 'na ddim llawer o ddinasoedd dwi heb eu mwynhau... os bydde rhaid i mi ddewis, byswn i'n dweud Llundain - wrth fy modd gyda hanes ac egni y lle.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y noson ar ôl ein Camp Lawn cyntaf mewn 27 mlynedd yn 2005 yn un ohonyn nhw... roedd Caerdydd yn wyllt y noson yna a dwi'n cofio cael fy hebrwng gan heddlu (fel rockstar) i fewn i'r Hilton ar gyfer y digwyddiad yno... y tro cyntaf a'r tro olaf i mi deimlo fel rockstar!!

Disgrifiad o’r llun,

Martyn yn dathlu wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc yn nhymor y Gamp Lawn, 2005

Oes gen ti datŵ?

Oes, ar fy ysgwydd dde... es i gyda cwpl o ffrindiau i gael un pan o'n i'n 16... ac ydw, dwi'n difaru!

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi'n hoff iawn o ffuglen hanesyddol ac mae Conn Iggulden yn awdur gwych... mae'r gyfres 'Emperor' (Julius Caesar) a'r gyfres 'Conqueror' (Genghis Khan) yn wych.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Pants cyfforddus…

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'The Avengers Age of Ultron' gyda fy mab 8 oed.

Dy hoff albwm?

Rhywbeth gan Bruce Springsteen, Oasis, ac yn fwy diweddar Mumford & Sons.

Disgrifiad o’r llun,

The Boss: Bruce Springsteen yn un o ffefrynnau Martyn

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?

Calamari… stêc Ribeye gyda sglodion wedi'u coginio ddwywaith a saws µþé°ù²Ô²¹¾±²õ±ð... Key Lime Pie.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Dibynnu ar y sefyllfa!

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Rory McIlroy… golffiwr rhif 1 yn netholion y byd…

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Ross Harries